Afon Troddi
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Sir Fynwy |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.8012°N 2.7036°W |
| Aber | Afon Gwy |
![]() | |
Afon yn Sir Fynwy sy'n un o lednentydd afon Gwy yw afon Troddi (Saesneg: River Trothy).
Ceir tarddle'r afon ychydig i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni. Mae'n llifo tua'r de hyd bentref Llanfable, lle mae'n troi tua'r dwyrain ac yn llifo heibio pentrefi Llandeilo Gresynni, Llanddingad a Llanfihangel Troddi i ymuno ag afon Gwy gerllaw Trefynwy, tua 0.5 km yn is i lawr na chymer afon Gwy ac afon Mynwy.

