Llanwytherin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanwytherin
Math pentref, plwyf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8497°N 2.9244°W Edit this on Wikidata
Cod OS SO364172 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Nick Ramsay (Ceidwadwyr)
AS/au David Davies (Ceidwadwr)

Pentref gwledig a phlwyf yn Sir Fynwy yw Llanwytherin (Seisnigiad: Llanvetherine). Fe'i lleolir ar y B4521 tua 4 milltir i'r dwyrain o'r Fenni, ar y ffordd i Ynysgynwraidd.

Cyfeirir at y pentref yn y llawysgrif Gymreig gynnar Llyfr Llandaf fel Ecclesia Guitherin (Lladin am 'Eglwys Gwytherin'). Sefydlwyd yr eglwys gan y sant Gwytherin, yn ôl pob tebyg. Cafwyd hyd i faen gydag arysgrif Ladin arno yn dwyn y geiriau S. Vetterinus a Ixcob Psona, sydd efallai er cof am offeiriad o'r enw Jacobus.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Davies (Ceidwadwr).[1][2]

Eglwys Llanwytherin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000). Tud. 316.


CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014