Y Dyfawden
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sir Fynwy ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.6874°N 2.7493°W ![]() |
Cod SYG |
W04000780 ![]() |
Cod OS |
ST483990 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Nick Ramsay (Ceidwadwyr) |
AS/au | David Davies (Ceidwadwr) |
![]() | |
Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Y Dyfawden (Saesneg: Devauden).
Saif i'r gogledd-orllewin o dref Cas-gwent ar y ffordd B4293. Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentref bychan Fedw. Dywedir i John Wesley bregethu ei bregeth gyntaf yng Nghymru yn y Dyfawden ar 15 Hydref 1739.
Ceir Croes Cilgwrwg yn yr eglwys leol, a gofrestrwyd gan Cadw.
Mae'r sillafiad Cymraeg yn mynd yn ôl i 1677 a 'Devawden' yn 1464, ac mae'r gair yn enwau ar gaeau lleol hefyd ('Devauden acer'; 1583) ym Masaleg ar gyrion gorllewinol Casnewydd. Tarddiad y gair yw 'defod' (hen sillafiad: 'defawd') hy 'arferiad', 'ffasiwn', 'arddull' yn ôl y Dictionary of the Placenames of Wales (gol: Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Prifysgol Cymru (2007)) ond mae hefyd yn bosibl ei fod yn cyfeirio at glwt o dir, bychan (maint bawd). Mae'n bosibl hefyd fod y 'De' ar ddechrau'r gair yn Ffrengig gan mai'r cyfeiriad cyntaf ato yw'r ffurf 'de vaudeñ' (13g).
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Davies (Ceidwadwr).[1][2]
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Aberffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Brynbuga · Bryngwyn · Caerwent · Cas-gwent · Castell-meirch · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Cil-y-Coed · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Y Fenni · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Yr Hencastell · Little Mill · Llanarth · Llanbadog · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llaneuddogwy · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel-y-gofion · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llanffwyst · Llangaeo · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · St. Arvans · Sudbrook · Trefynwy · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd