Llanfair Disgoed

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanfair Is Coed)
Llanfair Disgoed
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaer-went Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6268°N 2.7983°W Edit this on Wikidata
Cod OSST447923 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJohn Griffiths (Llafur)
AS/auJessica Morden (Llafur)
Map

Pentref a phlwyf eglwysig yng nghymuned Caer-went, Sir Fynwy, Cymru, yw Llanfair Disgoed (hefyd Llanfair Isgoed a Llanfair Is Coed; Saesneg: Llanvair Discoed neu Llanvair-Discoed).[1] Mae'n gorwedd rhwng Casnewydd a Cas-gwent i'r gogledd o bentref Caerwent.

Cyfeiria'r enw at y ffaith y bu'n rhan o gantref Gwent Is Coed yn yr Oesoedd Canol, h.y. yn gorwedd i'r de o Goed Gwent a nodai'r ffin rhwng Gwent Is Coed a Gwent Uwch Coed.

Dim ond 67 o dai sydd yn y pentref heddiw. Ceir tafarn hefyd (The Woodlands Tavern), Eglwys Fair ac adfelion hen gastell Normanaidd.

Saif Cylch Cerrig Mynydd Llwyd gerllaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan John Griffiths (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Jessica Morden (Llafur).[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlodd brenhinoedd Teyrnas Gwent eu prif lys yn Llanfair Is Coed. Cyfeirir ato yn Llyfr Dydd y Farn yn 1086 fel "Lamecare".[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]