Gwent Is Coed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cantref yn ne-ddwyrain Cymru'r Oesoedd Canol oedd Gwent Is Coed (hefyd weithiau Gwent Iscoed). Gyda chantref Gwent Uwch Coed roedd yn un o ddau gantref ar diriogaeth hen deyrnas Gwent.

Roedd coedwig fawr Coed Gwent yng nghanol yr hen deyrnas yn ei rhannu'n ddwy uned naturiol ac felly fe'i gelwid yn Went Is Coed a Gwent Uwch Coed. Gwent Is Coed oedd y lleiaf o'r ddau gantref o ran ei faint ond y pwysicaf o ran ei boblogaeth a'i ganolfannu. Gorwedd ar arfordir y de-ddwyrain ar lan Môr Hafren, ar y ffin â Lloegr gydag Afon Wysg yn dynodi'r ffin. I'r gorllewin ffiniai â chantref Gwynllwg ac i'r gogledd â Gwent Uwch Coed.

Ar sawl cyfrif, Gwent Is Coed oedd yr ardal bwysicaf yn y Gymru Rufeinig. Yma y codwyd dinas Rufeinig Caerleon-ar-Wysg neu Isca (ar safle Caerllion heddiw), a ddaeth yn bencadlys yr Ail Leng Rufeinig (Legio II Augusta). Gerllaw roedd Caerwent (Venta Silurum), prifddinas y Silures.

Roedd y tir arfordirol yn arbennig o ffrwythlon. Sefydlodd breninoedd Gwent ei brif lys yn Llanfair Is Coed a daeth Caerwent yn ganolfan eglwysig.

Caerleon a Brynbuga[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel gweddill Gwent, cafodd y cantref ei oresgyn gan y Normaniaid erbyn 1070. Sefydlwyd 'Arglwyddiaeth Caerleon a Brynbuga' neu Lower Gwent yno ar ddiwedd yr 11g. Parhaodd hyd greu'r Sir Fynwy newydd yn 1542.