Caer-went

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Caerwent)
Caer-went
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6113°N 2.7684°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001058 Edit this on Wikidata
Cod OSST470905 Edit this on Wikidata
Cod postNP26 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Caer-went[1] (weithiau Caerwent). Pan goncrwyd llwyth y Silwriaid gan y Rhufeiniaid, crëwyd canolfan a thref farchnad iddynt dan yr enw Venta Silurum yn fuan wedi'r flwyddyn 78 gan y Llywodraethwr Rhufeinig Julius Frontinus. Cyn hynny roedd gan y Silwriaid fryngaer bwysig gerllaw yng Nghoed Llanmelin. Venta Silurum yw'r dref Rufeinig y gwyddys mwyaf amdani yng Nghymru, a'r ail fwyaf adnabyddus ym Mhrydain ar ôl Calleva Atrebatum (Silchester).

Magwyrydd Rhufeinig yng Nghaerwent

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[3]

Hanes[golygu | golygu cod]

Caerwent Rufeinig[golygu | golygu cod]

Roedd y dref Rufeinig yn dilyn y patrwm arferol, gyda dwy brif ffordd yn ffurfio croes a mur a ffos o'i hamgylch. Gydag arwynebedd o 300 - 350 medr sgwar roedd yn dref gymharol fechan. Yn y canol roedd y Fforwm, gyda sgwâr agored a siopau a Basilica o'i amgych. I'r dwyrain o'r Fforwm mae teml Rufeinig, oedd mae'n debyg wedi ei chysegru i'r duw Mawrth, ac i'r gogledd mae Amffitheatr. Roedd o leiaf ddau faddondy yn y dref. Ar bob ochr i'r briffordd a redai drwy'r dref roedd yna resi o siopau a sawl teml. Mae darnau sylweddol o'r mur Rhufeinig i'w gweld o hyd, hyd at 5 medr o uchder mewn mannau. Atgyfnerthwyd y muriau hynny â thyrau lle y cedwid arfau. Y tu allan i'r muriau y ceid y mynwentydd. Mae tai y pentref modern yn gorchuddio rhan o'r hen safle Rufeinig.

Wedi ymadawiad y Rhufeiniaid[golygu | golygu cod]

Credir i'r boblogaeth adael y dref yn y 5g, fel gyda llawer o ddinasoedd a threfi Rhufeinig Prydain, ond mae'n bosibl i Gaerwent barhau fel canolfan i Deyrnas Gwent ar ôl y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd clas yng Nghaerwent gan sant o Wyddel o'r enw Tatheus tua'r 5fed ganrif. Ar ôl y Goncwest Normanaidd codwyd castell mwnt a beili ar y safle.

Y Normaniaid yn gosod caer mwnt a beili o fewn hen amddiffynfeydd y Rhufeiniaid

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Caer-went (pob oed) (1,791)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caer-went) (151)
  
8.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caer-went) (1058)
  
59.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Caer-went) (221)
  
30.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • O.E. Craster, Caerwent Roman City (Llundain: HMSO, 1951; sawl argraffiad ers hynny)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]