Llan-ffwyst

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanffwyst
Llanfoist Church, St Faith Monmouthshire.JPG
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8111°N 3.0356°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO285135 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)

Pentref yng nghymuned Llan-ffwyst Fawr, Sir Fynwy yw Llan-ffwyst[1] (Saesneg: Llanfoist).[2] Saif i'r de-orllewin o'r Fenni ar lan arall Afon Wysg, ac i'r gogledd-ddwyrain o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog.

Ni wyddys unrhyw beth o gwbl am Ffwyst, nawddsant Llan-ffwyst.

Roedd y pentref yn gartref i'r meistr haearn Crawshay Bailey (1789–1872), a ymddeolodd i Llanfoist House yn y pentref cyn 1851.

Claddwyd y nofelydd Alexander Cordell (1914–97) ym mynwent y pentref.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2021
CymruFynwy.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato