Paleograffydd

Oddi ar Wicipedia

Mae paleograffydd yn un sydd yn hyddysg mewn darllen hen lawysgrifen ac yn deall datbygiad y gwahanol sgriptiau ysgifenedig a ddefnyddid mewn llawysgrifau. Paleograffeg yw'r enw ar astudiaeth hanes, ffurfiau a chonfensiynau llawysgrifen,[1] yn arbennig rhai'r Canoloesoedd a'r cyfnod cynnar modern. Mae'n ofynnol i archifyddion astudio paleograffeg fel rhan o'r diploma cymhwyso, er mwyn deall a chatalogio hen ddogfennau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert P. Gwinn, "Paleography" in the Encyclopædia Britannica, Micropædia, Vol. IX, 1986, p. 78.