John Williams (casglwr llawysgrifau)

Oddi ar Wicipedia
John Williams
Ganwyd6 Tachwedd 1840 Edit this on Wikidata
Capel Gwynfe Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1926 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmeddyg, obstetrydd, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
TadDavid Williams Edit this on Wikidata
MamEleanor Williams Edit this on Wikidata
Gweler hefyd John Williams (tudalen gwahaniaethu).

Casglwr llawysgrifau Cymreig ac un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru oedd Syr John Williams (6 Tachwedd 1840 – 24 Mai 1926). Fe'i ganed ar fferm "Y Beili", Gwynfe, Sir Gaerfyrddin a bu farw yn "Blaenllynant", Aberystwyth. Cafodd yrfa fel llawfeddyg yn Abertawe ac yna yng Ngholeg Prifysgol Llundain; fe'i gwnaed yn farchog ym 1894 am ei wasanaeth i lawfeddygaeth, a dychwelodd i'w sir enedigol ym 1903 i fyw yn Llansteffan.

Trwy gydol ei oes bu'n gasglwr llawysgrifau brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel Llawysgrifau Llansteffan, yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel Gwallter Mechain a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd Lewis Morris, ac eraill. Yn ogystal, prynodd Lawysgrifau Peniarth ym 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg erioed.

Pan gafwyd cynllun i sefydlu llyfrgell genedlaethol addawodd Syr John y byddai'n cyflwyno ei gasgliad gwerthfawr iddi ar yr amod ei bod yn cael ei lleoli yn Aberystwyth, ac felly y bu. Diolch i'r penderfyniad hwnnw arhosodd llawysgrifau pwysicaf Cymru yng Nghymru i'r cenedlaethau a ddêl.

Hanes ei fywyd[golygu | golygu cod]

Cerflun Syr John Williams yn Ystafell Ddarllen y Gogledd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ganwyd John Williams yn 1840 yn Sir Gaerfyrddin.  Cafodd ei addysg yn Abertawe, a graddiodd ym Mhrifysgol Glasgow a Phrifysgol Llundain cyn cychwyn ar yrfa lwyddiannus fel llawfeddyg. Tra bu’n gweithio yn Llundain yn ystod chwarter olaf y 19g daeth yn ŵr cyfoethog a dylanwadol ac yn feddyg i’r teulu brenhinol.  Roedd ei fryd ar gasglu hen bethau Cymreig, a thyfodd ei gasgliad i gynnwys dros 25,000 o eitemau.  Yn eu plith roedd 19 o’r 22 llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd cyn 1700, yn cynnwys y llyfr cynharaf i gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg, Yn y lhyvyr hwn (1546).

Roedd yn gasglwr brwd o lawysgrifau. Yn 1904 prynodd John Williams gasgliad llawysgrifau Peniarth a’i gyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.  Roedd y casgliad amhrisiadwy hwn yn cynnwys trysorau fel Llyfr Du Caerfyrddin, Cyfreithiau Hywel dda a Llyfr Gwyn Rhydderch. Ymgyrchodd yn egnïol i ennill llyfrgell genedlaethol i Gymru drwy annerch cyfarfodydd cyhoeddus ac ysgrifennu llythyrau at bapurau newydd. Ef i raddau helaeth oedd yn trefnu’r ymgyrch dros ei sefydlu. Fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad enwyd John Williams yn Llywydd cyntaf y Llyfrgell, a daliodd y swydd honno hyd ei farwolaeth yn 1926.

Portread[dolen marw] Syr John Williams gan Christopher Williams

Ef yw’r noddwr unigol mwyaf yn hanes y Llyfrgell. Roedd ei roddion yn sicrhau bod y sefydliad newydd yn cael ei gydnabod fel Llyfrgell Genedlaethol go iawn o’r cychwyn cyntaf. Urddwyd ef yn farchog yn 1911 ar achlysur gosod carreg sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol. Mae cerflun marmor o Syr John Williams wedi ei osod mewn safle amlwg ym mhen gorllewinol Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol.[1][2] Portreadwyd ef hefyd gan ‘un o’r arlunwyr mwyaf dawnus o Gymru', yn ôl David Lloyd George. Yr artist oedd Christopher Williams, a ddaeth yn enwog yn sgil ei ddarlun o Frwydr Mametz yn 1916 o dan y teitl Charge of the Welsh Division at Mametz Wood.   Bu barn Syr John Williams ar Gymru a Chymreictod yn ddylanwad mawr ar yr artist, a chyflwynodd John Williams lawer o ysgolheigion amlwg iddo.[3]

Mewn diwylliant poblogaidd[golygu | golygu cod]

Yn ffilm Y Llyfrgell mae’r cymeriad Dan yn honni mai Syr John oedd y llofrudd cyfresol ‘Jack the Ripper’. Daw’r cyhuddiad o lyfr a gyhoeddwyd yn 2005[4] a ysgrifennwyd gan un o ddisgynyddion honedig y llawfeddyg, Michael Anthony Williams, a’i gyd awdur Humphrey Price. Mae'r awduron yn honni bod y merched a lofruddiwyd yn adnabod y meddyg yn bersonol a'u bod wedi eu lladd a’u llurgunio mewn ymgais i ymchwilio i achos anffrwythlondeb ei wraig. Mae'r llyfr hefyd yn honni mai cyllell lawfeddygol a oedd yn eiddo i Syr John Williams, sydd i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, oedd arf y llofrudd.[5] Mae amheuon difrifol wedi eu codi gan eraill am gymhwysedd a chymhelliant yr awduron.[6][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hanes y Llyfrgell. Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. tt. 4, 7–9.
  2. Davies, John (2008). Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. t. 963.
  3. "Christopher Williams, 'Sir John Williams'". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2016-08-10. Cyrchwyd 2020-03-10.
  4. Williams, Tony, 1961- (2006). Uncle Jack. Price, Humphrey, 1961-. London: Orion. ISBN 0-7528-7698-8. OCLC 62225561.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  5. Thompson, Tony (24 April 2005). "Knife clue could solve mystery of the Ripper". The Guardian. Cyrchwyd 11 Awst 2007.
  6. Pegg, Jennifer (October 2005). Uncle Jack Under the Microscope. Ripper Notes. 24. Inklings Press. ISBN 978-0-9759129-5-9.
  7. Pegg, Jennifer (January 2006). "Shocked and Dismayed" – An Update on the Uncle Jack Controversy. Ripper Notes. 25. Inklings Press. tt. 54–61. ISBN 978-0-9759129-6-6.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]