Llawysgrifau Llansteffan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Teitl '''''
Iaith Cymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1690 Edit this on Wikidata
Perchennog Llyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Yn cynnwys Llyfr Coch Talgarth Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Casgliad o lawysgrifau Cymreig yw Llawysgrifau Llansteffan (neu Llanstephan). Maent yn cynnwys testunau nifer o gerddi a thestunau rhyddiaith Cymraeg Canol, yn arbennig o gyfnod yr Oesoedd Canol Diweddar a'r Dadeni Dysg.

Ffurfiwyd cnewyllyn y casgliad gan y copïwr llawysgrifau Samuel Williams (c.1660-1722), offeiriad Llandyfrïog a Llangynllo (Ceredigion) a'i fab, yr hynafiaethydd Moses Williams (1685-1742). Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llawysgrifau o gasgliadau Walter Davies (Gwallter Mechain), Lewis Morris, Edward Breese ac E. G. B. Phillimore. Cafodd y casgliad ei gyflwyno i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Syr John Williams yn 1909; fe'u gelwir yn Llawysgrifau Llansteffan am fod Syr John wedi dod â'r casgliad ynghŷd yn ei bentref genedigol Llansteffan (Sir Gaerfyrddin). (Er mai Llansteffan yw'r ffurf Gymraeg arferol ar enw'r pentref, cyfeirir at y casgliad fel Llawysgrifau Llanstephan gan amlaf).

Ymhlith y testunau a geir yn y casgliad pwysig hwn ceir cerddi gan rhai o Feirdd yr Uchelwyr, fel Dafydd ap Gwilym, Guto'r Glyn, Lewys Glyn Cothi, Tudur Aled, Gutun Owain, Siôn Brwynog, Morgan Elfael, a Llywelyn Siôn, ynghŷd â gwaith o law Siôn Dafydd Rhys. Yn llawysgrif Llanstephan 4 ceir y testun cynharaf o Chwedlau Odo (tua dechrau'r 15g. Y llawysgrif bwysicaf yw Llyfr Coch Talgarth (tua 1400).