Llywelyn Siôn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llywelyn Siôn
Ganwyd 1540 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr, Llangewydd Castle, Laleston Edit this on Wikidata
Bu farw 1615 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata

Un o'r olaf o Feirdd yr Uchelwyr, cyfieithydd, a chopïwr llawysgrifau oedd Llywelyn Siôn (15401615?). Roedd yn frodor o Langewydd, ger Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg.[1]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir tua 14 o'i awdlau a chywyddau. Cyfeiria mewn un ohonynt at Tomos Llywelyn o'r Rhigos fel ei athro barddol. Nid oes llawer o werth llenyddol i'w farddoniaeth sy'n adlewyrchu'r gostyngiad mewn safonau yn y traddodiad barddol ym Morgannwg yn ail hanner yr 16g.

Ond roedd Llywelyn yn gopïwr llawysgrifau proffesiynol a chafodd ei gomisiynu i lunio sawl llyfr pwysig gan noddwyr uchelwrol ei fro. Ymhlith y 13 o lawysgrifau yn ei law sy'n aros heddiw ceir llawysgrif Llanofer 17, Llyfr Hir Amwythig, Llyfr Hir Llywarch Reynolds a Llyfr Hir Llanharan a'r unig gopi Cymraeg o'r Gesta Romanorum. Diolch i'w waith diwyd y cedwir y casgliadau gorau o gerddi mân feirdd Morgannwg yn ail hanner yr 16g, yn cynnwys nifer o garolau a chwndidau.[1]

Yn llawysgrif Llanofer 17 ceir cyfeithiad Cymraeg o rannau o'r testun Ffrangeg Canol Bestiaire d'Amour gan Richart de Fornival (1201-?1260).[2] Tybir ei fod yn waith Llywelyn Siôn ei hun. Dyma enghraifft o'r cyfieithiad hwnnw (diweddarwyd yr orgraff) sy'n sôn am yr uncorn:

Ac am hynny y delaist di fi drwy aroglau, megis y delir yr uncorn drwy aroglau morwyn ieuanc, am nad oes yn y byd un anifail mor anodd i ddala ag ef, ac un corn sydd iddo ynghanol ei dalcen, ac nid oes na dyn nac anifail a feiddo ei aros ond morwyn ieuanc lân wyry. Cans pan glywo ef aroglau y forwyn a'u mwyn serchogrwydd, ef a ddaw ati, ac ef a ry[dd] ei ben yn ei harffed hi, ac yna y cwsg ef, a'r helwr call a edwyn hynny, a phan êl ef i hela y gosod ef forwyn ar ei ffordd ef.[3]

Ffugiadau Iolo Morganwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg yn unig yw'r honiad mai Llywelyn Siôn a luniodd gyfundrefn 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain', fel y dangosodd yr ysgolhaig G. J. Williams.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, arg. newydd 1992).
  2. Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love.
  3. Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love, tud. 21.
  4. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948).