Bestiaire d'Amour

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bestiaire d'amour, XIV sec. (Biblioteca Medicea Laurenziana)

Bwystori yn yr iaith Ffrangeg gan y Ffrancwr Richart de Fornival (1201 - c.1260) yw'r Bestiaire d'Amour ("Bwystori Serch"). Mae'r Bestiaire d'Amour yn cynrychioli penllanw traddodiad seciwlar - gweithiau alegoriaidd Cristnogol yw'r rhan fwyaf o'r bwystoriau - sydd â'i wreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid.

Uchelwr o ardal Picardi oedd Richart, hanner-brawd esgob Amiens. Roedd yn gasglwr llawysgrifau brwd a ysgrifennodd sawl llyfr ar alcemeg a chyfrolau hyfforddiadol ar serch. Yn y dosbarth olaf y mae'r Bestiaire d'Amour yn syrthio. Cyfuniad ydyw o ddeunydd naturiaethol a chwedlonol y bwystoriau traddodiadol ac esboniadau ar natur serch a'r llwybr i lwyddiant ym myd serch, genre y gellir canfod ei gwreiddiau yng ngwaith y trwbadwriaid, yn enwedig Rigaut de Barbezieux (fl. 1170-1210), a beirdd Eidaleg y ganrif flaenorol.

Cafodd ei sgwennu rywbryd rhwng 1230 a 1260 yn ôl pob tebyg. Mae'n ymrannu yn ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir cyfres o lythyrau byr am natur serch, pob un yn ymdrin ag anifail neilltuol, at gariad yr ymholydd sy'n gofyn am eglurhad ar agweddau ar eu cariad, a serch yn gyffredinol, nad ydyw'n eu deall yn iawn. Yn yr ail ran ceir atebion yr Arglwyddes honno. Cedwir 17 llawysgrif o'r rhan gyntaf ond dim ond pedwar sy'n cynnwys yr ail ran.

Roedd y Bestiaire yn llyfr poblogaidd iawn. Yn ogystal â'r llawysgrifau Ffrangeg cafwyd cyfieithiadau i sawl iaith Ewropeaidd, yn cynnwys Ffranconeg Canol, yr Eidaleg (tafodiaith Pisa) a'r Gymraeg.

Cyfieithiadau Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Uncorn a'r forwyn, darlun mewn llawysgrif o ddechrau'r 16eg ganrif, yn yr Historisches Museum, Basel)

Cyfieithwyd detholiadau allan o gyfrol Fornival i'r Gymraeg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Dim ond darn o'r cyfieithiad hynaf a wyddys sydd wedi goroesi, yn llawysgrif Llansteffan 4 yn llaw ysgrifennydd anhysbys a gysylltir â Llyfr Coch Hergest. Mae'n perthyn i'r 14g ac yn waith a luniwyd ar gyfer y noddwr enwog Hopcyn ap Tomas o Ynysdawy. Mae'r ail hynaf i'w cael yn llawysgrif Peniarth 51, yn llaw y bardd Gwilym Tew (fl. ail hanner y 15g), o ardal Tir Iarll ym Morgannwg. Yn llawysgrif Llanofer 17 y ceir y trydydd, yn llaw y bardd a chopïydd proffesiyinol o Forgannwg Llywelyn Siôn (c. 1540- 1615). Yn ogystal ceir darn mewn llawysgrif Caerhun 27, o'r 16g: cyhoeddwyd hyn gan Dafydd Jones o Drefriw yn y gyfrol Cydymaith Diddan (1776).

Dim ond 15 o'r 46 anifail sydd yn llyfr Fornival a geir yn y cyfeithiadau Cymraeg. Dyma enghraifft allan o gyfieithiad Llywelyn Siôn (diweddarwyd yr orgraff) sy'n sôn am yr uncorn:

Ac am hynny y delaist di fi drwy aroglau, megis y delir yr uncorn drwy aroglau morwyn ieuanc, am nad oes yn y byd un anifail mor anodd i ddala ag ef, ac un corn sydd iddo ynghanol ei dalcen, ac nid oes na dyn nac anifail a feiddo ei aros ond morwyn ieuanc lân wyry. Cans pan glywo ef aroglau y forwyn a'u mwyn serchogrwydd, ef a ddaw ati, ac ef a ry[dd] ei ben yn ei harffed hi, ac yna y cwsg ef, a'r helwr call a edwyn hynny, a phan êl ef i hela y gosod ef forwyn ar ei ffordd ef.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. A Welsh Bestiary of Love, tud. 21.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988). Testunau Cymraeg a'r Ffrangeg Canol gwreiddiol.
  • Cesare Segre (gol.), Li Bestiaires d'amours di Maistre Richart de Fornival e li response du bestiaire (Milan a Napoli, 1957). Y golygiad safonol o'r testunau Ffrangeg Canol.