Hopcyn ap Tomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hopcyn ap Tomas
Ganwyd Ynysforgan Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd 14G Edit this on Wikidata

Roedd Hopcyn ap Tomas ab Einion (fl. tua 1337 - tua 1408) yn uchelwr dysgedig a noddwr beirdd o Ynysforgan (Ynys Forgan) ac Ynysdawe (Ynys Dawe, Ynys Dawy), penrhyn Gŵyr, de Cymru.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Hopcyn yn un o wŷr mwyaf dysgedig ei oes yn llenyddiaeth a hanes Cymru. Roedd yn gasglwr a chopïwr llawysgrifau brwd ac ar un adeg bu rhai o drysorau'r genedl yn ei gartref yn Ynysforgan.[1]

Gwyddys ei fod yn berchen ar Lyfr Coch Hergest gan fod cofnodion ynddo amdano gan y copïydd Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuallt, ac mae'n bosibl mai ar gyfer Hopcyn y lluniwyd y llawysgrif enwog honno. Copïydd lleyg (h.y. heb weithio mewn sgriptoriwm) oedd Hywel, ac ymddengys ei fod wedi gwneud cryn dipyn o waith i Hopcyn ap Tomas. Ceir dim llai na phum awdl i Hopcyn yn y Llyfr Coch, gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen, Dafydd y Coed, Madog Dwygraig, Meurig ab Iorwerth ac Ieuan Llwyd ab y Gargam. Yn ogystal ceir awdl gan Y Proll i'w fab Tomas ap Hopcyn, yntau'n noddwr beirdd.[1]

Mae Dafydd y Coed yn dweud am Hopcyn ei fod yn hael eithriadol a bod copïau o'r Elucidarium, y Sant Greal, a llyfrau Cyfraith Hywel Dda a'r Annales Cambriae yn ei lys:

Mynawg Hopcyn, lyn loywglos,
Mur heilddwbl cetgwbl catgis,
Mwnai law, mae yn ei lys,
Eurddar, y Lusidarius,
A'r Greal a'r Yniales,
A grym pob cyfraith a'i gras.[2]

Dywedir fod Hopcyn yn barddoni yn ogystal, ond nid oes enghraifft o'i waith ar gael heddiw. Roedd ei chwaeth mewn llenyddiaeth yn geidwadol ac ymddengys nad oedd yn meddwl llawer o'r cywydd ffasiynol newydd.

Yn ogystal â chroesawu'r beirdd i'w aelwyd, roedd gan Hopcyn ap Tomas enw fel arbenigwr ar y brudiau (yn rhyddiaith ac ar gân), y storfa o chwedlau a hanes traddodiadol a cherddi proffwydoliaeth am ddyfodol y Brythoniaid, neu'r Cymry. Yn y cyd-destun hwn gwyddys fod neb llai nag Owain Glyn Dŵr wedi ymgynghori â Hopcyn, a hynny yn 1403 pan fu ar ei anterth.[3]

Ni wyddys pryd fu farw ond roedd yn fyw yn 1403, pan gyfarfu Glyn Dŵr, ac efallai mor ddiweddar â 1408.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002).
  2. R. Iestyn Daniel (gol.), Gwaith Dafydd y Coed a beirdd eraill o Lyfr Coch Hergest (Aberystwyth, 2002). Cerdd 3.91-6.
  3. 3.0 3.1 Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986).