Ynysdawe

Oddi ar Wicipedia
Ynysdawe
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6861°N 3.9069°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Treforys, Sir Abertawe, Cymru, yw Ynysdawe ("Cymorth – Sain" ynganiad ) neu Ynystawe[1][2] (hefyd Ynys Dawe). Fe'i lleolir ar lan Afon Tawe i'r gogledd o ddinas Abertawe fymryn i'r de o Glydach. Rhed yr M4 heibio i'r de o'r pentref.

Gyferbyn ag Ynysdawe ceir Ynysforgan. Roedd gan y ddau le ran amlwg ym mywyd diwylliannol Morgannwg yn yr Oesoedd Canol am fod dau gartref y Tomasiaid yn gorwedd yno, un yn Ynysforgan a'r llall yn Ynysdawe. Yr enwocaf o'r teulu oedd Hopcyn ap Tomas (tua 1350 - 1400au), casglwr llawysgrifau, brudiwr a noddwr beirdd. Yn ôl traddodiad galwodd Owain Glyndŵr am ei gyngor fel brudiwr yn 1403 ac roedd Llyfr Coch Hergest a nifer o lawysgrifau eraill yn ei feddiant.

Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo Ysgol Gyfun Treforys. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a Llansamlet, ger llaw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[3][4]

Pobl enwog o Ynysdawe[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 16 Hydref 2021
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolen allanol[golygu | golygu cod]