Oxwich

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Oxwich

Pentref ar arfordir deheuol Penrhyn Gŵyr ym mwrdeisdref siol Abertawe yw Oxwich (Cyf. OS SS498864). Saif yng nghymuned Pen-rhys. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo.

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 13eg a'r 14g, i Sant Illtud. Gerllaw'r pentref mae traeth Bae Oxwich, Castell Oxwich, sy'n dyddio o gyfnod y Tuduriaid, a Chastell Pen-rhys. Yma hefyd mae gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Mae Oxwich yn gyrchfan boblogaidd iawn i ymwelwyr, a cheir nifer o westai yma yn ogystal a maes carafannau.


CymruAbertawe.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato