Castell Oxwich

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Oxwich

Lleolir Castell Oxwich ar benrhyn coediog ger pentref Oxwich sy'n edrych allan ar Fae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr, Cymru.

Er ei fod yn bosib fod y castell wedi ei adeiladu ar safle adeilad llawer hŷn, mae'r castell fel y mae heddiw yn enghraifft o blasdy Tuduraidd crand a adeiladwyd ar arddull cwrtiau. Fe'i adeiladwyd yn y 16g gan Syr Rice Mansel er mwyn darparu llety moethus. Rhoddodd arfbais teuluol i'r castell ynghyd â ffug-borth milwrol. Gwelwyd gwaith Syr Rice yn y bloc deheuol yn unig a chwblhawyd y gwaith rhwng y 1520au a'r 30au. Pan fu farw Mansel, etifeddodd ei fab, Syr Edward Mansel yr adeilad a rhwng 1560-80 creodd adeilad llawer crandach gyda neuadd fawr ac oriel hir, a oedd yn nodwedd ffasiynol iawn ym mhensaernïaeth Oes Elizabeth. Mae'r tŵr chwe llawr i'r de-ddwyrain wedi goroesi tan heddiw a chredir yr arferai ddarparu llety i'r teulu a'r gweision. Pan adawodd y Mansels yn ystod y 1630au, adfeiliodd yr adeilad a defnyddiwyd rhan ddeheuol yr adeilad fel ffermdy.

Bellach mae'r adeilad yng ngofal Cadw.