Penrhyn Gŵyr
- Gweler hefyd Gŵyr a Penrhyn (gwahaniaethu).
Mae Penrhyn Gŵyr rhwng Bae Abertawe a Bae Caerfyrddin, ym Morgannwg, Cymru; mae wedi'i ddynodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Gan fod y creigiau o gerrig calch mae nifer o gilfachau ac ogofeydd yno. Yma mae Ogof Paviland, lle darganfuwyd sgerbwd dyn o ryw 25,000 o flynyddoedd yn ôl.
Blodeuodd 'teyrnas Gŵyr' yma am gyfnod byr - yn yr Oesoedd Canol Cynnar.
Bu i Ffleminiaid a Saeson ymsefydlu ar rannau deheuol y penrhyn yn y ddeuddegfed ganrif yn sgîl goresgyn iseldiroedd arfordir de Cymru gan y Normaniaid, ac o ganlyniad, Saesneg yw prif iaith yr ardal hon ers hynny. Arhosodd pentrefi gogledd-ddwyrain y penrhyn yn Gymraeg eu hiaith hyd ail hanner yr ugeinfed ganrif a chlywir gwahaniaeth amlwg yn acenion a ffordd o siarad y ddwy ardal hyd heddiw.
Ymwelodd Gerallt Gymro â Gŵyr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Yn ei lys yn Ynysforgan ar benrhyn Gŵyr trigai Hopcyn ap Tomas (tua 1337-1408), noddwr beirdd a chasglwr llawysgrifau, a gysylltir â Llyfr Coch Hergest.
Mae Penclawdd sydd ar yr arfordir gogleddol yn enwog am y cocos a gesglir oddi ar y traeth.
Heddiw mae Gŵyr yn boblogaidd iawn gyda thwristiaid dros fisoedd yr haf. Erys amaethyddiaeth yn bwysig iawn yn yr economi lleol ond gwelir llawer o bobl yn ymddeol o ardaloedd eraill Cymru a Lloegr i fyw ym mhentrefi Gŵyr, ac felly'n codi pris tai o afael y brodorion.
Pentrefi Gŵyr[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir cymysgfa o enwau Cymraeg a Saesneg ar bentrefi'r penrhyn, sy'n ddrych i'w hanes. Ceir rhai pentrefi gydag enwau Cymraeg yn unig, eraill gydag enwau yn y ddwy iaith, ac eraill ag enwau Saesneg yn unig.
- Crofty
- Y Crwys
- Llandeilo Ferwallt
- Llanddewi
- Llangynydd (Llangenydd)
- Llanilltud Gŵyr
- Llanmadog
- Llanmorlais
- Llanrhidian
- Llan-y-tair-mair
- Nicholaston
- Oldwalls
- Oxwich
- Penclawdd
- Penrhys
- Port Einon
- Reynoldston
- Rhosili
- Southgate
- Tre-gŵyr
- Wern-olau
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru |
|
---|---|