Adeiladau rhestredig yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia

Ychydig iawn o aneddau medrir eu dyddio yng Nghymru cyn y 1450au, ac eithrio adfeilion cestyll, a phalas yr Esgob Gower yn Nhyddewi a Nantclwyd y Dre yn Rhuthun sy'n dyddio i o leiaf 1435. Parhawyd i godi gestyll wedi Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, yn enwedig yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Codwyd tŵr arbennig o gain yn Rhaglan gan William Herbert ac ehangwyd ffenestri nifer o gestyll er mwyn eu troi'n anedd-dai cyfforddus. Codwyd 'tai tŵr' castellog ac ym Mhenfro codwyd 'tai neuadd' gan nifer o uchelwyr Cymreig.[1] Cyfunwyd y ddwy dechneg pensaernïol yma yn Nhretŵr oddeutu 1451 a godwyd gan Rhosier Fychan, cefnder William Herbert. Treuliodd y bardd Guto'r Glyn ysbaid yno yn yr adeiladau moethus. Tua'r adeg hon y datblygodd tai a wnaed o goed derw lleol: y tai 'du a gwyn' fel y'i gelwir. Yr ardaloedd gorau i weld y math hwn o anheddiad yng Nghymru yw Powys.

Dyma arolwg ar adeiladau rhestredig yng Nghymru.

Allwedd[golygu | golygu cod]

Gradd Meini prawf[2]
I Adeiladau o ddiddordeb eithriadol, cenedlaethol fel arfer.
II* Adeiladau o bwys penodol sydd o ddiddordeb mwy nag arbennig.
II Adeiladau o ddiddordeb arbennig sy'n haeddu gwneud pob ymdrech i'w diogelu.

Adeiladau rhestredig Gradd I yn ôl sir[golygu | golygu cod]

Sir Nifer
o safleoedd
Adeiladau rhestredig Gradd I Abertawe 8
Adeiladau rhestredig Gradd I Bro Morgannwg 33
Adeiladau rhestredig Gradd I Caerdydd 16
Adeiladau rhestredig Gradd I Caerffili 2
Adeiladau rhestredig Gradd I Casnewydd 7
Adeiladau rhestredig Gradd I Castell-nedd Port Talbot 7
Adeiladau rhestredig Gradd I Ceredigion 10
Adeiladau rhestredig Gradd I Conwy 28
Adeiladau rhestredig Gradd I Gwynedd 45
Adeiladau rhestredig Gradd I Merthyr Tudful 2
Adeiladau rhestredig Gradd I Pen-y-bont ar Ogwr 8
Adeiladau rhestredig Gradd I Powys 73
Adeiladau rhestredig Gradd I Rhondda Cynon Taf 3
Adeiladau rhestredig Gradd I Sir Benfro 55
Adeiladau rhestredig Gradd I Sir Ddinbych 28
Adeiladau rhestredig Gradd I Sir Fynwy 53
Adeiladau rhestredig Gradd I Sir Gaerfyrddin 23
Adeiladau rhestredig Gradd I Sir y Fflint 27
Adeiladau rhestredig Gradd I Torfaen 3
Adeiladau rhestredig Gradd I Wrecsam 17
Adeiladau rhestredig Gradd I Ynys Môn 38
Cyfanswm adeiladau rhestredig Gradd I Cymru 488

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hanes Cymru gan John Davies; Gwasg Penguin; 1990; tud 204.
  2.  Cwestiynau Cyffredin. Cadw. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.