Penrhys

Oddi ar Wicipedia
Pen-rhys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.646°N 3.441°W Edit this on Wikidata
Cod OSST004951 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map
Ffynnon Fair
Am y pentref yn sir Abertawe, gweler Pen-rhys.

Pentref bychan ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Penrhys, a leolir 1,100 troedfedd i fyny ar fryn, rhwng cymoedd Rhondda Fawr a Rhondda Fach. Mae'n rhan o gymuned Pendyrus. Hyd at y Diwygiad Protestannaidd ar ddiwedd yr 16g, roedd Penrhys yn ganolfan pererindod amlwg, fel mae John Leland yn ei nodi.[1]

Ychydig iawn o olion o'r Oesoedd Canol a geir yno heddiw fodd bynnag. Ond mae'r ffynnon wedi goroesi. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd symudodd llawer o'r ardal a dinistriwyd hen abaty ac allor lleol.

Cerflun catholig a godwyd yn lle'r allor cynharach a ddifrodwyd yn ystod y Diwygiad Protestannaidd.

Ffynnon Fair[golygu | golygu cod]

Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol, cynyddodd y diddordeb yn y ffynnon a'r nodweddion crefyddol eraill yn yr ardal' cafwyd cloddfa archaeolegol yn 1912 a chodwyd ffynnon newydd yma yn 1953.

Ychydig islaw copa Mynydd Penrhys ceir cwt syml a adnabyddir fel Ffynnon Fair lle ceir dŵr a ystyriwyd ers talwm yn llawn rhinweddau ac yn iachau cleifion. Roedd yma gapel i weddio hefyd a chofnodir llawer o 'wyrthiau' ar y safle. Mae tarddiad y ffynnon yn un Celtaidd ac felly credai'r hen bobl bod bodau arallfydol yn trigo yno a bod gnddyn nhw bwerau cyfrin. Dros y blynyddoedd Cristnogeiddiwyd hyn, a newidiwyd enw'r ffynnon. Ymhlith yr afiechydon a wellwyd roedd: cryd y cymalau a phroblemau gyda'r llygaid a'r golwg.

Fel llawer o ffynhonau eraill drwy Gymru, roedd yr arferiad o ddefnyddio pinnau'n un cryf. Byddai'r claf, wedi iddo ymdrochi yn y dŵr, yn taflu pin i'r ffynnon. Os newidiai lliw'r pin, yna byddai'r claf yn gwella. Hyd yn oed yn yr 20g roedd llawer o binau i'w gweld yn y ffynnon.

Defnyddiwyd y dŵr 'bendithiol' hwn ar gyfer bedyddio yn yr eglwys leol.

Hanes[golygu | golygu cod]

20g[golygu | golygu cod]

Erbyn 1904 roedd poblogaeth y Rhondda yn 110,000, ac yn cynyddu'n sydyn. Yn 1906 codwyd ysbyty yma ar dair erw o dir a brynnwyd gan y Gymdeithas Iechyd. Dewisiwyd Penrhys gan ei fod yn y canol rhwng dau o gymoedd y Rhondda. Ymdriniai gan mwyaf gyda'r frech wen ac agorwyd yr ysbyty yn 1907. Yn 1971 llosgwyd yr adeilad gan y Frigad Dân, gan nad oedd yn cael ei ddefnyddio.

Yn 1927 dewisiwyd Penrhys fel man cychwyn 'Gorymdaith Newyd Dydd Sul Coch y Rhondda'. Trefnwyd yr orymdaith gan Ffederasiwn Chwarelwyr De Cymru, ond trodd y TUC yn ei herbyn a chollodd ei nerth; roedd y Comiwnyddion, fodd bynnag, o blaid gorymdeithio a cherddodd 270 o orymdeithwyr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Leland, John Itinerary of John Leland Vol.4, folio 55
  2. Coalfield Web Materials


Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.