Pentre'r Eglwys

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pentre'r Eglwys
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Rhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5699°N 3.3216°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Mick Antoniw (Llafur)
AS/au Owen Smith (Llafur)

Pentref bychan ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf ydy Pentre'r Eglwys (Saesneg: Church Village). Mae'n rhan o Gymuned Llanilltud Faerdre. Yn 2011, roedd 2,501 (17.1%) o boblogaeth (3 oed a throsodd) y Gymuned yn gallu siarad Cymraeg.[1]

Aiff hanes y gymuned yn ôl i ganol y 19g pan nad oedd ond cartref saer coed a dau adeilad neu dŷ gwag yno, yn ôl cyfrifiad 1841. Tyfodd y pentref yn ystod y deng mlynedd canlynol ond eto, gan mai bach iawn oedd, dan enw pentref cyfagos Cross Inn y'i cofnodwyd yng nghyfrifiad 1851, pan oedd 91 o bobl yn byw yno mewn 14 cartref.[2]

Hen Lyfrgell Carnegie, Pentre'r Eglwys.

Cynhaliwyd ysgol mewn stablau ger fferm Tir Bach cyn symyd i ystafell hir y tu ôl i Tafarn y Groes yng nghanol y pentref. Roedd yr ystafell hefyd yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig. Adeiladwyd Capel yn ddiweddarach ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Erbyn cyfrifiad 1861, roedd tuag 11 o bobl yn byw mewn 22 cartref.[2] Erbyn heddiw mae Ysgol Gynradd Gymraeg Gartholwg yn y pentref. Agorwyd Llyfrgell yno ar 1 Ebrill 1965; symudwyd hi ynghyd a Ysgol Gyfun Rhydfelen i adeilad newydd ar hen safle'r ysgol gynradd[3] ym Mhentre'r Eglwys ac agorwyd hi ar 4 Medi 2006. Mae cynlluniau i adeiladu miloedd o dai newydd yn y pentref. Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ffordd-osgoi Penter'r Eglwys, mae hyn wedi bod ar y gweill ers 2006 ond nid oes gwaith wedi dechrau esioes (2007).[4][5]

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Mick Antoniw (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Owen Smith (Llafur).[6][7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


CymruRhonddaCynonTaf.png Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.