Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf

Oddi ar Wicipedia
Cwm-bach
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7072°N 3.4128°W Edit this on Wikidata
Map
Am lleoedd eraill o'r un enw, gweler Cwm-bach.

Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Cwm-bach. Saif gerllaw tref Aberdâr.

Mae'n adnabyddus am Gôr Meibion Cwmbach, a sefydlwyd yn 1921. Y côr yma oedd y cyntaf i ganu ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, cyn gêm rygbi'r undeb ryngwladol. Dros y blynyddoedd, maent wedi canu gydag artistiaid megis Paul Robeson, Syr Geraint Evans, Stuart Burrows, Gwyneth Jones, Constance Shacklock, Patricia Kern a'r gitarydd John Williams.

Sefydlwyd y siop Co-op gyntaf yng Nghymru yma yn 1860. Bu'r bardd Harri Webb yn byw ymg Nghwmbach am rai blynyddoedd.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf (pob oed) (4,401)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf) (448)
  
10.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf) (3948)
  
89.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cwm-bach, Rhondda Cynon Taf) (861)
  
44.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]