Neidio i'r cynnwys

Abercwmboi

Oddi ar Wicipedia
Abercwmboi
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6897°N 3.4125°W Edit this on Wikidata
Cod OSST025999 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUBeth Winter (Llafur)
Map

Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Abercwmboi.[1][2] Fe'i lleolir yng nghymuned De Aberaman. Saif ar ffordd y B4275, i'r de-ddwyrain o dref Aberdâr, ac ar lan Afon Cynon.

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Anaml ceir cyfuno aber a cwm mewn enw lle. Yn ôl Gwynedd O. Pierce, mae'n debyg taw nant o'r enw Confoe yw ail elfen yr enw a throdd dros amser yn "cwmboi", gyda'r acen ar y sillaf olaf. Mae'n bosib hefyd nad yw'r elfen "aber" yn cyfeirio at y man lle rhed y nant i Afon Cynon, ond yn hytrach mewn ystyr ffrwd neu nant yn syml. Mae'r ystyr hon o "aber" mewn enwau lleoedd yn gyffredin yn y gogledd, ond mae'n bosib taw Abercwmboi yw un o'r ychydig o enghreifftiau yn y de.[3]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 17 Mehefin 2024
  2. British Place Names; adalwyd 17 Mehefin 2024
  3. Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen, Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t.7