Llanhari

Oddi ar Wicipedia
Llanhari
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5146°N 3.4352°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000876 Edit this on Wikidata
Cod OSST005805 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHuw Irranca-Davies (Llafur)
AS/auChris Elmore (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yn Rhondda Cynon Taf yw Llanhari (Saesneg: Llanharry). Saif i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd ger Bontyclun.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cloddwyd haearn yn Llanharri cyn belled yn ôl ag adeg y Rhufeiniaid ac oes Elisabeth ac am gyfnod yn ystod y 20g roedd y dref yn lleoliad i'r unig gloddfa haearn yng Nghymru. Mae'n bosibl mae'r un enw personol 'Harri' sydd yn yr enw, yma ac yn y plwyf agos, Llanharan, neu, efallai, Aaron. Enw'r eglwys Eglwys Sant Illtud.

Eglwys Sant Illtud, Llanhari
Tafarn yr Arth, Llanhari

Agorwyd y gloddfa yn gynnar yn yr 1900au ond caewyd hi yn 1975; y prif fwyn oedd goethite, a'i defnyddiwyd yn y gweithfeydd haearn lleol. Ers i'r gloddfa a'r gweithfeydd gau, mae Llanharri wedi dioddef dirywiad economaidd, yn debyg i nifer o bentrefi Cymru a oedd yn ddibynadwy ar ddiwydiant trwm. Er hyn, mae traffordd yr M4 gerllaw wedi galluogi i drigolion y dref deithio i'r gwaith mewn trefi a dinasoedd cyfagos megis Caerdydd.

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Erbyn heddiw mae gan y dref Ysgol Gyfun a thua chwe busnes lleol gan gynnwys Londis, SPAR, siop papur newydd ac amryw o siopau torri gwallt.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanhari (pob oed) (3,643)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanhari) (482)
  
13.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanhari) (3106)
  
85.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanhari) (464)
  
30.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]