Ton Pentre
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pentre |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6461°N 3.4868°W |
Cod OS | SS975953 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elizabeth (Buffy) Williams (Llafur) |
AS/au y DU | Chris Bryant (Llafur) |
Pentref ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Ton Pentre, weithiau Tonpentre.[1] Saif yng nghwm Rhondda Fawr, yng nghymuned Pentre. Roedd y boblogaeth yn 2004 tua 1,028.
Roedd yr ardal lle saif Ton Pentre yn wreiddiol yn glwstwr o hafotai, a elwid 'Y Ton'. Daeth y diwydiant glo yn bwysog yma o ganol y 19g ymlaen, gyda Glofa Maendy, a agorwyd yn 1864, yn Nhon Pentre yn un o gyflogwyr mwyaf yr ardal. Caeodd yn 1948.
Tanchwa Glofa'r Pentre
[golygu | golygu cod]Glofa arall oedd Glofa'r Pentre, ac yma ar 24 Chwefror 1871 y bu ffrwydriad enbyd a laddodd 36 o weithwyr a dau o'r tim achub. Yn ôl y cwest a ddilynnodd y tanchwa, nodwyd 'Ein bod yn unfrydol o’r farn bod y ffrwydrad wedi digwydd trwy ollyngiad sydyn o nwy a'i fod yn debygol o danio wrth y ffwrnais ac nad oes bai ar unrhyw un o’r swyddogion sy’n gysylltiedig â’r lofa.'[2][3][4]
Rhai o'r meirw:
- Henry Backer, 36 blwydd oed, gwraig a 5 o blant.[5]
- George Coburn, 32 blwydd oed, gwraig a 2 o blant.
- Enoch Davies, 30 blwydd oed.
- Robert Davies, 23 blwydd oed.
- George Day,, 36 blwydd oed, married.
- Samuel Evans, 29 blwydd oed.
- Thomas Griffiths, 48 blwydd oed, gwraig a 8 o blant.
- Henry Haines, 17 blwydd oed.
- William Howells.
- John Hughes, 34 blwydd oed.
- James Jones, 20 blwydd oed.
- Morgan Jones, 65 blwydd oed, gwraig a 7 o blant.
- William Lewis, flueman, 38 blwydd oed.
- William Meredith, 17 blwydd oed.
- John Michael, 28 blwydd oed.
- John Mills or Miles, 40 blwydd oed.
- Daniel Morgan alias Park, 24 blwydd oed.
- David Morgan, 28 blwydd oed.
- William Rosser, 21 blwydd oed, dibriod.
- John Sullivan, 28 blwydd oed.
- Joseph Thomas, 30 blwydd oed, dibriod.
- Walter Williams, 35 blwydd oed.
Clwb Pel-droed Ton Pentre
[golygu | golygu cod]Mae Ton Pentre yn gartref i C.P.D. Ton Pentre sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru ac yn enillydd sawl gwaith ar Cynghrair Cymru (Y De). Maent yn chwarae ar Barc Ynys.
Pobl o Don Pentre
[golygu | golygu cod]- Gareth Alban Davies, llenor
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 16 Mehefin 2024
- ↑ Mines Inspectors Report, 1871. Mr. Thomas E. Wales.
- ↑ Colliery Guardian, 3rd March 1871, t.236, 24th Marthw, 1871, t.236.
- ↑ And they worked us to deat Cyfrola1&2. Ben Fieldhouse and Jackie Dunn. Gwent Family History Society.
- ↑ nmrs.org.uk; Northern Mine Research Society; adalwyd 24 Chwefror 2024.
Trefi
Aberdâr · Aberpennar · Glynrhedynog · Llantrisant · Pontypridd · Y Porth · Tonypandy · Treorci
Pentrefi
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aber-nant · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynys-y-bwl · Ystrad Rhondda