Cynghrair Cymru (Y De)

Oddi ar Wicipedia
Nathanielcars.co.uk
Welsh League Division One
Gwlad Cymru
Sefydlwyd1904
Daeth i ben2019
Nifer o dimau16
Lefel ar byramid1 (1904–1992)
2 (1992–2019)
3 (2019–)
Dyrchafiad iCymru South (Pencampwriaeth CBDC)
Disgyn iWelsh Football League Division Two
CwpanauCwpan Cymru
Cwpan Cynghrair Cymru
GwefanThe Welsh Football League
2019–20 Welsh League Division One

Cynghrair Bêl-droed Cymru sydd, am resymau nawdd, yn cael ei hadnabod fel Cynghrair Bêl-droed Cymru NathanielCars.co.uk (Saesneg: NathanielCars.co.uk Welsh Football League) yw prif gynghrair pêl-droed de Cymru. Mae'r gynghrair yn ffurfio ail, trydydd a phedwerydd rheng Pyramid pêl-droed Cymru ac yn bwydo Uwch Gynghrair Cymru.

O dymor 2019/20 ymlaen, yn sgil ad-drefnu i system byramid cyngheiriau Cymru newidiwyd y Gynghrair Undebol gan Bencampwriaeth De CBDC dan y brand newydd, Cymru South sy'n cynnwys y rhan fwyaf o dimau Cynghrair Cymru (Y De). Mae Cynghrair Cymru (Y De) yn cadw ei hunaniaeth ond bellach yn 3ydd lefel pyramid pêl-droed Cymru.[1][2]

Tiriogaeth a Threfniadaeth[golygu | golygu cod]

Mae tair adran yng Nghynghrair Cymru (Y De) ar gyfer timau pêl-droed siroedd Gwent, Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Brycheiniog. Yn ogystal â'r dair brif adran mae'r Gynghrair yn trefnu adran i Ail dimau ac i dimau Ieuenctid.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 1904 cyhoeddodd papur newydd y Merthyr Express y byddai Cynghrair Cwm Rhymni yn cael ei sefydlu ar gyfer tymor 1904-05 i redeg ochr yn ochr â Chynghrair De Cymru[3] oedd wedi ei sefydlu ym 1891[4]. Gyda 25 o glybiau yn ymaelodi cafwyd tair adran gydag Athletig Aberdâr yn sicrhau'r bencampwriaeth cyntaf.[3]. Ym 1909 cafodd y Gynghrair ei henwi'n Cynghrair Bêl-droed Morgannwg cyn dod yn Gynghrair Bêl-droed Cymru ym 1912.

Mae'r gynghrair wedi newid ei henw sawl gwaith gan gynnwys y Premier Division a National Division.

Yn 1992, yn dilyn sefydlu Cynghrair Bêl-droed Cymru, daeth y gynghrair yn swyddogol yn ail lefel i'r gynghrair genedlaethol yn system byramid CBD Cymru. Dim ond un lîg genedlaethol sydd gan Gymru mewn pêl-droed.[5]

Pencampwyr Adran 1 Cynghrair Cymru y De[golygu | golygu cod]

Tymor Enillydd
Lîg 1 Cynghrair Gymreig
1992–93
C.P.D. Ton Pentre
1993–94
C.P.D. Tref Y Barri
1994–95
Briton Ferry Athletic
1995–96
C.P.D. Tref Caerfyrddin
1996–97
C.P.D. Sir Hwlffordd
1997–98
C.P.D. Ton Pentre
1998–99
C.P.D. Ton Pentre
1999–00
C.P.D. Ton Pentre
2000–01
C.P.D. Ton Pentre
2001–02
C.P.D. Ton Pentre
2002–03
Bettws
2003–04
C.P.D. Llanelli
2004–05
C.P.D. Ton Pentre
2005–06
Goytre United
2006–07
Neath Athletic
2007–08
Goytre United
2008–09
C.P.D. Aberdâr
2009–10
Goytre United
2010–11
Bryntirion Athletic
2011–12
Cambrian & Clydach
2012–13
West End
2013–14
Monmouth Town
2014–15
C.P.D. Caerau (Trelái)
2015–16
C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd
2016-17
C.P.D. Tref Y Barri
2017-18
C.P.D. Llanelli
2018-19
C.P.D. Pen-y-bont

Tymor Cyfredol[golygu | golygu cod]

Cynghrair Cymru (Y De), 2018-19

Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre |


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.faw.cymru/cy/news/croeso-i-gymru/?back=/cy/&pos=8
  2. https://clwbpeldroed.org/2018/11/28/football-association-wales-restructuring-pyramid/
  3. 3.0 3.1 "Welsh Football League: History". Welsh Football Data Archive.
  4. "South Wales League: History". Welsh Football Data Archive.
  5. https://www.wpl.cymru/news/Welsh-Premier-League-Review/84462/

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.