C.P.D. Sir Hwlffordd
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd | ||
|---|---|---|---|
| Llysenw(au) | Yr Adar Gleision Y Orllewin | ||
| Sefydlwyd | 1899 | ||
| Maes | Stadiwm Bridge Meadow | ||
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
| 2024-25 | 3. | ||
|
| |||
Clwb pêl-droed o Hwlffordd, Sir Benfro ydy Clwb Pêl-droed Sir Hwlffordd (Saesneg: Haverfordwest County Association Football Club).
Ffurfiwyd y clwb yn 1899[1] ac maent yn chwarae ar faes Dôl y Bont.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfwyd y Clwb yn 1899 fel C.P.D. Hwlffordd ond ar ôl blynyddoedd o chwarae yng Nghynghrairt Sir Benfro, newidiwyd enw'r clwb i C.P.D. Athletic Hwlffordd ym 1936 wedi iddynt sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Cymru'r De[1][2].
Cafwyd newid arall i enw'r clwb ym 1956 wrth iddynt fabwysiadu'r enw C.P.D. Sir Hwlffordd ac yn yr un tymor, llwyddodd y clwb i ennill pencampwriaeth Cynghrair Cymru'r De am y tro cyntaf yn eu hanes[3]. Llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth ar ddwy achlysur arall, ym 1980-81[4] a 1989-90[5] cyn dod yn un o aelodau gwreiddiol Uwch Gynghrair Cymru ym 1992-93.
Byr iawn oedd eu cyfnod cyntaf yn y Gynghrair Genedlaethol gan i'w maes gael ei brynnu gan archfachnad Safeway. Methodd y clwb a dod o hyd i faes o safon derbyniol i'r gynghrair tra bo maes newydd yn cael ei adeiladu a bu rhaid iddynt ddisgyn yn ôl i Gynghrair Cymru (Y De) ar gyfer tymor 1994-95.
Ym 1997, sicrhawyd dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair wrth iddynt orffen ar frig Cynghrair Cymru'r De am y pedwerydd tro yn eu hanes[6].
Bu i chwaraewr Cymru, Simon Davies, gychwyn ei yrfa fel bachgen yn Hwlffordd. Mab o ardal Sir Benfro ydyw.
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]| Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 2004–05 | Cwpan UEFA | Rd. Rhag1 | 0–1 (C) [a] | 1–3 (OC) | 1–4 | |
| 2023–24 | Cynghrair Cyngres Europa UEFA | Rd. Rhag1 | 0–1 (OC) | 1–0 (a.y.) (C) [b] | 1–1 (3–2 c.o.s.) | |
| Rd. Rhag2 | 1–2 (OC) | 1–1 (a.y.) (C) [c] | 2–3 | |||
| 2025–26 | Cynghrair Cyngres UEFA | Rd. Rhag1 |
- ↑ Chwaraewyd y gêm ym Mharc Ninain, Caerdydd
- ↑ Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
- ↑ Chwaraewyd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Haverfordwest County". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-13. Cyrchwyd 2015-05-11. Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welsh League South 1936-37". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welsh League South 1956-57". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welsh League South 1980-81". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welsh League South 1989-90". Unknown parameter
|published=ignored (help) - ↑ "Welsh League South 1996-97". Unknown parameter
|published=ignored (help)