C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd
| Enw llawn | Clwb Pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd | ||
|---|---|---|---|
| Llysenw(au) | Met | ||
| Sefydlwyd | 2000[1] | ||
| Maes | Cyncoed | ||
| Rheolwr | |||
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
| 2024/25 | 5. | ||
|
| |||

Clwb pêl-droed Undeb Athletau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yng Nghaerdydd ydy C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd (Saesneg: Cardiff Metropolitan University F.C.). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, y brif adran bêl-droed yng Nghymru.
Ffurfiwyd y clwb yn 2000 wrth i glybiau Yr Athrofa ac Inter Caerdydd uno[1]. Newidiwyd yr enw i Met Caerdydd yn 2012.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r clwb wedi cael sawl enw yn ystod eu hanes gan adlewyrchu'r newidiadau i enw Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Fe'i sefydlwyd fel C.P.D. Coleg Addysg Caerdydd cyn dod yn C.P.D. Athrofa De Morgannwg ym 1979, C.P.D. Athrofa Caerdydd ym 1990 ac Yr Athrofa ym 1996[2].
Yn 2000 unodd C.P.D. Yr Athrofa gyda C.P.D. Inter Caerdydd er mwyn ffurfio C.P.D. Athrofa Inter Caerdydd gan newid eu henwau i C.P.D. Met Caerdydd yn 2012.
Yn 2014-15, llwyddodd Hwlffordd i rwystro Met rhag sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor[3], ond llwyddodd y clwb i sicrhau dyrchafiad wrth ennill Cynghrair Cymru (Y De) yn nhymor 2015-16[3].
Arwyddlun
[golygu | golygu cod]Mae arwyddlun trawiadol y Clwb yn dangos saethydd bwa saeth ar ffurf arwr Greogaidd gyda'r arwyddair,'I lwyddo, rhaid chwarae'.
Record yn Ewrop
[golygu | golygu cod]Canlyniadau i gyd (cartref ac oddi cartref) yn nodi goliau Caerdydd yn gyntaf.
As of 4 July 2019
| Tymor | Cystadleuaeth | Cymal | Clwb | Cartref | Oddi Cartref | Agg. |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1994–95 | Cwpan UEFA | PR | 0–2 | 0–6 | 0–8 | |
| 1997–98 | Cwpan UEFA | 1QR | 0–3 | 0–5 | 0–8 | |
| 1999–2000 | Cwpan UEFA | QR | 1–0 | 0–2 | 1–2 | |
| 2019–20 | Cynghrair Europa UEFA | PR | 2–1 | 0–1 | 2–2 (a) |
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "UWIC Inter Cardiff". WelshPremier.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-20. Cyrchwyd 2016-08-22.
- ↑ "History: Met Cardiff". Welsh-Premier.com.[dolen farw]
- ↑ 3.0 3.1 "Cardiff Met FC: Welsh football's academics enjoy success at a price". BBCSport. Unknown parameter
|dyddiad=ignored (help)
| Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
|---|---|---|
|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |