F.C. Progrès Niederkorn
![]() | |||
| Enw llawn | Football Club Progrès Niederkorn | ||
|---|---|---|---|
| Sefydlwyd | 1919 | ||
| Maes | Stade Jos Haupert, Niederkorn (sy'n dal: 4,830) | ||
| Cadeirydd | Fabio Marochi | ||
| Rheolwr | Thomas Gilgemann | ||
| Hyfforddwr | Roland Vrabec | ||
| Cynghrair | Uwch Gynghrair Lwcsembwrg | ||
| |||
Mae Football Club Progrès Niederkorn, neu, fel rheol Progrès Niederkorn yn glwb pêl-droed yn nhref Niederkorn, yn ne-orllewin Lwcsembwrg.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Progrès ar 14 Awst 1919 o dan yr enw Cercle Sportif. Roedd y cit yn cynnwys crys coch gyda chylch brest gwyn a llewys gwyn a throwsus gwyn. Ar 15 Mawrth 1922, newidiwyd y lliwiau yn crys streipiog du a melyn ac ychydig yn ddiweddarach newidiwyd y trwsus yn ddu.
Erbyn 1923 roedd Progrès wedi esgyn i'r ail adran ac yn 1926 i Uwch Gynghrair Lwcsembwrg sef yr Erste Division fel y gelwyd ar y pryd ac yna'r Nationaldivision. Yn 1933 enillodd Progrés Gwpan Lwcsembwrg (Coupe de Luxembourg) gan ennill 4-1 yn erbyn Union Luxembourg. Dyma oedd anrhydedd gyntaf y clwb.
Yn y cyfnod ble roedd yr Almaen wedi meddiannu Lwcsembwrg yn ystod yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd y clwb yn y Gauliga Moselland (sef cynghrair talaith newydd oedd yn cynnwys rhannau o'r Almaen) o dan enw FK Niederkorn, pan orffennodd yn ail yn 1942–43, y tu ôl i'r pencampwyr TuS Neuendorf.
Gan ennill y gynghrair ddomestig dair gwaith, cyfnod mwyaf llwyddiannus y clwb oedd diwedd y 1970au a dechrau'r 1980au. Nid ydynt wedi ennill unrhyw dlws mawr ers ennill y gynghrair ym 1981.
Yn nhymor 2005-06, daeth Niederkorn yn ail yn ail adran Lwcsembwrg. Wrth i'r adran uchaf, y Nationaldivison, ehangu o ddeuddeg tîm i bedwar ar ddeg, cafodd Niederkorn eu dyrchafu ynghyd â Differdange 03.
Yn nhymor 2016–17 y Nationaldivison, denodd Progrès Niederkorn dorf fwyaf y gynghrair y flwyddyn honno: 1,820. Eu torf gartref, ar gyfartaledd, oedd 710.[1]
Ar 4 Gorffennaf 2017, curodd Progrès F.C. dîm enwog Rangers F.C. o'r Alban yn rownd gymhwyso gyntaf Cynghrair Europa UEFA 2017–18. Gwnaethant golli 0-1 yn Ibrox yn y cymal cyntaf, ac yna ennill 2-0 yn y Stade Jozy Barthel. Y fuddugoliaeth hon hefyd oedd buddugoliaeth gyntaf erioed y clwb mewn pêl-droed Ewropeaidd a'r tro cyntaf iddynt sgorio mwy nag un gôl mewn gêm.[2] Fe wnaethon nhw fwynhau ymgyrch gwell hyd yn oed yn Nghynghrair Europa UEFA 2018-19, gan guro CC FK Gabala a Budapest Honvéd i gyrraedd y trydydd rownd gymhwyso yn erbyn tîm Ufa o Rwsia. Roedd y tei ar fin mynd i amser ychwanegol ond sgoriodd Ufa gôl funud olaf.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Uwch Gynghrair Lwcsembwrg
- Enillwyr (3): 1952–53, 1977–78, 1980–81
- Cwpan Lwcsembwrg
- Enillwyr (4): 1932–33, 1944-45, 1976–77, 1977–78
Gemau yn Ewrop
[golygu | golygu cod]| Tymor | Twrnament | Rownd | Gwrthwynebwyr | Cartref | Oddi cartref | Cyfanswm goliau |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1977–78 | Cwpan Enillwyr Cwpannau UEFA | 1 | 0–1 | 0–9 | 0–10 | |
| 1978–79 | Cwpan Ewrop | 1 | 0–7 | 0–5 | 0–12 | |
| 1979–80 | Cwpan UEFA | 1 | 0–2 | 0–4 | 0–6 | |
| 1981–82 | Cwpan Ewrop | 1 | 1–1 | 0–4 | 1–5 | |
| 1982–83 | Cwpan UEFA | 1 | 0–1 | 0–3 | 0–4 | |
| 2015–16 | Cynghrair Europa UEFA | Cymhwyso 1 | 0–0 | 0–3 | 0–3 | |
| 2017–18 | Cynghrair Europa UEFA | Cymhwyso 1 | 2–0 | 0–1 | 2–1 | |
| Cymhwyso 2 | 0–1 | 1–2 | 1–3 | |||
| 2018–19 | Cynghrair Europa UEFA | Cymhwyso 1 | 0–1 | 2–0 | 2–1 | |
| Cymhwyso 2 | 2–0 | 0–1 | 2–1 | |||
| Cymhwyso 3 | 2–2 | 1–2 | 3–4 | |||
| 2019–20 | Cynghrair Europa UEFA | Rhagbrofol | 1–0 | 1−2 | 2–2 (g.o.c.) | |
| Cymhwyso 1 | 1−2 | 2–0 | 3–2 | |||
| Cymhwyso 2 | 0–0 | 0−2 | 0–2 |
Tîm menywod
[golygu | golygu cod]Mae gan y clwb dîm menywod sy'n chwarae yn y Dames Ligue 1. Mae'r tîm wedi ennill y gynghrair 15 gwaith ac felly, yn dal y record genedlaethol. Enillwyd y teitl ddiwethaf yn 2010-11 a galluogodd iddynt gystadlu yng Cynghrair Pencampwyr Menywod UEFA yn 2011-12.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.european-football-statistics.co.uk/attn.htm
- ↑ Ostlere, Lawrence (4 Gorffennaf 2017). "Rangers suffer humiliating loss to Luxembourg side in Europa League qualifying". The Guardian. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2012-11-09 yn y Peiriant Wayback – Progrès Niederkorn
- Tudalen Facebook – Progrès Niederkorn
