Neidio i'r cynnwys

Cynghrair Europa UEFA

Oddi ar Wicipedia
Cynghrair Europa UEFA
Ffurfiwyd1971 (2009 yn ei ffurf bresennol)
ArdalUEFA (Ewrop)
Nifer o dimau48 (rownd y grwpiau)
+8 clwb yn ymuno yn dilyn grwpiau Cynghrair y Pencampwyr
160 (cyfanswm)
PresennolBaner Yr Eidal Atalanta (1af tro)
Clybiau mwyaf llwyddiannusBaner Sbaen Sevilla
(4 pencampwriaeth)
GwefanGwefan swyddogol

Cystadleuaeth bêl-droed flynyddol i glybiau pêl-droed Ewrop sy'n cael ei threfnu gan UEFA yw Cynghrair Europa UEFA. Mae clybiau yn sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar sail eu perfformiadau yn eu cynghreiriau a chwpanau cenedlaethol.

Fe'i hadnabyddwyd fel Cwpan UEFA tan 2009-10[1] pan ad-drefnwyd y gystadleuaeth. Mae UEFA yn ystyried Cwpan UEFA a Chynghrair Europa UEFA i fod yr un gystadleuaeth.[2].

Ym 1999 cafodd Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop UEFA ei diddymu gydag enillwyr cwpanau cymdeithasau Ewrop yn sicrhau eu lle yng Nghwpan UEFA o 2000-01 ymlaen[1] ac ers yr ailfrandio yn 2009, mae Tlws Intertoto UEFA hefyd wedi ei ddiddymu gyda'r gystadleuaeth yn cael ei huno gyda Chynghrair Europa.

Mae enillwyr Cynghrair Europa yn sicrhau eu lle yn rownd derfynol Super Cup UEFA ac ers 2014-15 mae'r enillwyr hefyd yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA ar gyfer y tymor canlynol.

Mae'r tlws wedi ei godi gan 31 o glybiau gwahanol gyda 14 o'r rhain yn ennill y gystadleuaeth ar fwy nag un achlysur. Sevilla yw'r clwb mwyaf llwyddiannus ar ôl ennill y gystadleuaeth saith gwaith.[3]

Cymerodd Gwpan UEFA le'r Inter-Cities Fairs Cup ym 1971 gyda Tottenham Hotspur yn codi'r tlws cyntaf un ar ôl trechu Wolverhampton Wanderers dros ddau gymal yn y rownd derfynol. Parhaodd y gystadleuaeth i gael ei chwarae dros ddwy gymal hyd nes 1997-98 pan benderfynwyd cynnal y rownd derfynol ar faes niwtral a llwyddodd Internazionale i drechu Lazio 3-0 ar faes Parc des Princes, Paris.

Enillwyr

[golygu | golygu cod]
Clwb Enillwyr Ail Blynyddoedd buddugol Blynyddoedd ail
Baner Sbaen Sevilla 7 0 2006, 2007, 2014, 2015, 2016, 2020, 2023
Baner Yr Eidal Internazionale 3 2 1991, 1994, 1998 1997, 2020
Baner Lloegr Lerpwl 3 1 1973, 1976, 2001 2016
Baner Yr Eidal Juventus 3 1 1977, 1990, 1993 1995
Baner Sbaen Atlético Madrid 3 0 2010, 2012, 2018
Baner Yr Almaen Borussia Mönchengladbach 2 2 1975, 1979 1973, 1980
Baner Lloegr Tottenham Hotspur 2 1 1972, 1984 1974
Baner Yr Iseldiroedd Feyenoord 2 0 1974, 2002
Baner Yr Almaen Eintracht Frankfurt 2 0 1980, 2022
Baner Sweden IFK Göteborg 2 0 1982, 1987
Baner Sbaen Real Madrid 2 0 1985, 1986
Baner Yr Eidal Parma 2 0 1995, 1999 1995
Baner Portiwgal Porto 2 0 2003, 2011
Baner Lloegr Chelsea 2 0 2013, 2019
Baner Gwlad Belg Anderlecht 1 1 1983 1984
Baner Yr Almaen Bayer Leverkusen 1 1 1988 2024
Baner Yr Iseldiroedd Ajax 1 1 1992 2017
Baner Lloegr Manchester United 1 1 2017 2021
Baner Yr Iseldiroedd PSV Eindhoven 1 0 1978
Baner Lloegr Ipswich Town 1 0 1981
Baner Yr Eidal Napoli 1 0 1989
Baner Yr Almaen Bayern Munich 1 0 1996
Baner Yr Almaen Schalke 04 1 0 1997
Baner Twrci Galatasaray 1 0 2000
Baner Sbaen Valencia 1 0 2004
Baner Rwsia CSKA Moscow 1 0 2005
Baner Rwsia Zenit St. Petersburg 1 0 2008
Baner Wcráin Shakhtar Donetsk 1 0 2009
Baner Sbaen Villarreal 1 0 2021
Baner Yr Eidal Atalanta 1 0 2024

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Uefa Cup given new name in revamp". 2008-09-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "New format provides fresh impetus". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Sevilla out on their own in all-time standings". Unknown parameter |published= ignored (help)