Atlético Madrid

Oddi ar Wicipedia
Atlético de Madrid
Enw llawn Club Atlético de Madrid, S.A.D.
Llysenw(au)
  • Colchoneros (Y Gwneuthyrwyr Matresi)
  • Rojiblancos (Y Coch a Gwynion)
Sefydlwyd 26 Ebrill 1903
Maes Estadio Vicente Calderón
Cadeirydd Baner Sbaen Enrique Cerezo
Cynghrair La Liga
2018-19 2.
Gwefan Gwefan y clwb

Clwb pêl-droed o ddinas Madrid yw Club Atlético de Madrid, SAD sy'n chwarae yn La Liga, prif adran pêl-droed Sbaen. Ffurfiwyd y clwb ar 26 Ebrill 1903[1] fel Athletic Club de Madrid gan dri o fyfyrwyr o Wlad y Basg oedd yn byw ym Madrid, fel cangen ieuenctid o Athletic Bilbao[1].

Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref yn Estadio Vicente Calderón sy'n dal 54,960 o dorf, ond yn 2016 mae disgwyl i'r clwb symud i'w cartref newydd yn Estadio La Peineta fydd yn gallu dal torf o 70,000.

Hanes Cynnar[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y clwb ar 26 Ebrill 1903[1] fel Athletic Club de Madrid gan dri o fyfyrwyr o Wlad y Basg oedd yn byw ym Madrid, fel cangen ieuenctid o Athletic Bilbao[1]. Lleolwyd maes cyntaf Atlético yn Ronda de Vallecas yn ne y ddinas ond ym 1921, wedi i'r clwb ddod yn annibynnol o Athletic Bilbao, adeiladwyd stadiwm newydd, yr Estadio Metropolitano de Madrid, ar eu cyfer[2]. Defnyddiwyd y Metropolitano tan 1966 pan symudodd y clwb i'r Estadio Vicente Calderón[3].

Ar ôl colli yn rownd derfynol y Copa del Rey ym 1921 a 1926, cafodd y clwb wahoddiad i ymuno â La Liga pan sefydlwyd y gynghrair ym 1928.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Domestig[golygu | golygu cod]

  • La Liga
    • Enillwyr (10): 1939–40, 1940–41, 1949–50, 1950–51, 1965–66, 1969–70, 1972–73, 1976–77, 1995–96, 2013–14
  • Segunda División
    • Enillwyr (1): 2001-02
  • Copa del Rey
    • Enillwyr (10): 1959–60, 1960–61, 1964–65, 1971–72, 1975–76, 1984–85, 1990–91, 1991–92, 1995–96, 2012–13
  • Supercopa de España
    • Enillwyr (2): 1985, 2014
  • Copa de los Campeones de España (rhaglfaenydd Supercopa de España)
    • Enillwyr (1): 1940
  • Copa Presidente FEF (rhaglfaenydd Supercopa de España)
    • Enillwyr (1): 1941
  • Copa Eva Duarte (rhaglfaenydd Supercopa de España)
    • Enillwyr (1): 1951
  • Copa de la Liga
    • Enillwyr (1): 1984–85

Rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Classic club". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-06. Cyrchwyd 2015-05-31.
  2. "Talking History: Atlético Madrid – This Is Anfield (Liverpool FC)". Thisisanfield.
  3. "A Centenary Club". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-06. Cyrchwyd 2015-05-31. Unknown parameter |published= ignored (help)
Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato