La Liga

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
La Liga
Liga BBVA.svg
Gwlad Sbaen
Conffederasiwn UEFA
Ffurfiwyd 1929
Nifer o dimau 20
Lefel yn y pyramid 1
Cwympo i Segunda División
Cwpanau domestig Copa del Rey
Supercopa de España
Cwpanau rhyngwladol Cynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr Real Madrid (33in penc.)
(2016-17)
Mwyaf llwyddianus Real Madrid (33)
Gwefan www.lfp.es

Y Primera División (Cymraeg: Adran Gyntaf) o'r Liga Nacional de Fútbol Profesional (LFP), sy'n cael ei adnabod fel La Liga, yw prif adran system bêl-droed Sbaen ac fe'i hadnabyddir, am resymau nawdd, fel Liga BBVA (Cynghrair BBVA).

Mae 20 tîm yn yr adran gyda'r tri tîm sy'n gorffen ar waelod yr adran yn disgyn i'r Segunda División (Ail Adran) ar ddiwedd y tymor gyda'r ddau dîm ar frig y Segunda ac enillydd gêm ail gyfle yn esgyn yn eu lle. Mae 60 o dimau gwahanol wedi cystadlu yn La Liga gyda naw tîm gwahanol yn cael eu coroni'n bencampwyr. Real Madrid a Barcelona sydd wedi rheoli'r bencampwriaeth gyda Real Madrid yn ei hennill 32 o weithiau a Barcelona 22 o weithiau.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafwyd y syniad o greu pencampwriaeth cenedlaethol i brif dimau Sbaen ym 1927 gan José María Acha, cyfarwyddwr â chlwb Arenas Club de Getxo, ac estynwyd gwahoddiad i Barcelona, Real Madrid, Athletic Bilbao, Real Sociedad, Arenas Club de Getxo a Real Unión fel cyn enillwyr y Copa del Rey a cafodd Atlético Madrid, Espanyol ac Europa o ddinas Barcelona wahoddiad fel clybiau oedd wedi colli yn y rownd derfynol o’r Copa.[1]

Ers sefydlu’r gynghrair ym 1929, ‘dyw Barcelona, Real Madrid ac Athletic Bilbao erioed wedi disgyn allan o’r Primera ond mae un neu ddau o’r clybiau gwreiddiol wedi disgyn yn bell iawn. Mae Arenas Club de Getxo ac Europa bellach yn chwarae yng Ngrwpiau rhanbarthol y Tercera División, sef pedwaredd rheng o bêl-droed Sbaen, tra bo Real Unión yn chwarae yn y drydedd rheng o’r pyramid, y Segunda B.

Pencampwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Clwb Enillwyr Ail Tymhorau buddugol

Real Madrid

33
23
1931–32, 1932–33, 1953–54, 1954–55, 1956–57, 1957–58, 1960–61, 1961–62, 1962–63, 1963–64, 1964–65, 1966–67, 1967–68, 1968–69, 1971–72, 1974–75, 1975–76, 1977–78, 1978–79, 1979–80, 1985–86, 1986–87, 1987–88, 1988–89, 1989–90, 1994–95, 1996–97, 2000–01, 2002–03, 2006–07, 2007–08, 2011–12, 2016-17

Barcelona

24
25
1929, 1944–45, 1947–48, 1948–49, 1951–52, 1952–53, 1958–59, 1959–60, 1973–74, 1984–85, 1990–91, 1991–92, 1992–93, 1993–94, 1997–98, 1998–99, 2004–05, 2005–06, 2008–09, 2009–10, 2010–11, 2012–13, 2014-15, 2015-16

Atlético Madrid

10
8
1939–40, 1940–41, 1949–50, 1950–51, 1965–66, 1969–70, 1972–73, 1976–77, 1995–96, 2013–14

Athletic Bilbao

8
7
1929–30, 1930–31, 1933–34, 1935–36, 1942–43, 1955–56, 1982–83, 1983–84
Valencia
6
6
1941–42, 1943–44, 1946–47, 1970–71, 2001–02, 2003–04

Real Sociedad

2
3
1980–81, 1981–82
Deportivo La Coruña
1
5
1999–2000
Sevilla
1
4
1945–46
Real Betis
1
0
1934–35

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]