Ligue 1

Oddi ar Wicipedia

Ligue 1 (Cymraeg: Cynghrair 1) yw prif adran bêl-droed Ffrainc. Mae 20 tîm yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i - ac yn esgyn o - Ligue 2. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai. Ffurfiwyd Ligue 1 ar 11 Medi 1932 o dan yr enw National cyn newid i Adran 1 wedi blwyddyn o fodolaeth. Newidiwyd enw'r gynghrair i Ligue 1 yn 2002.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cyn 1930 dim ond timau amatur oedd yn bodoli yn Ffrainc, ond yng Nghyngres Blynyddol Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc ym 1930 cafwyd pleidlais i sefydlu cynghrair genedlaethol i glybiau proffesiynol. Yr 20 clwb gwreiddiol yn y National oedd Antibes, CA Paris, Cannes, Club Français, Excelsior AC Roubaix, Fives, Hyères, Marseille, Metz, Mulhouse, Nice, Nîmes, Olympique Alès, Olympique Lillois, Racing Club de France, Red Star Olympique, Rennes, Sochaux, Sète, a SO Montpellier.

Gosodwyd yr 20 clwb mewn dwy adran o 10 tîm gyda'r tri isaf ym mhob adran yn cwympo i'r Ail Adran gyda buddugwyr y ddwy adran yn cwrdd mewn gêm i benderfynu'r pencampwyr. Cafwyd y rownd derfynol cyntaf ar 14 Mai 1933 gyda pencapwyr Grŵp A, Olympique Lillois, yn curo'r tîm orffennodd yn ail yng Ngrŵp B, Cannes, a hynny wedi i Antibes, pencampwyr Grŵp A, gael eu gwaharadd o'r gystadleuaeth oherwydd llwgrwobrwyo.

Pencampwyr[golygu | golygu cod]

Safle Clwb Pencampwriaethau Blwyddyn enillwyd
1
Paris Saint-Germain
11
1985-86, 1993-94, 2012-13, 2013-14, 2014-15, 2015-16, 2017-2018, 2018-2019, 2019-2020, 2021-2022, 2022-2023
2
Saint-Étienne
10
1956-57, 1963-64, 1966-67, 1967-68, 1968-69, 1969-70, 1973-74, 1974-75, 1975-76, 1980-81
3
Marseille
9
1936-37, 1947-48, 1970-71, 1971-72, 1988-89, 1989-90, 1990-91, 1991-92, 2009-10
4
Nantes
8
1964-65, 1965-66, 1972-73, 1976-77, 1979-80, 1982-83, 1994-95, 2000-01,
AS Monaco
8
1960-61, 1962-63, 1977-78, 1981-82, 1987-88, 1996-97, 1999-2000, 2016-2017
5
Lyon
7
2001-02, 2002-03, 2003-04, 2004-05, 2005-06, 2006-07, 2007-08
6
Stade de Reims
6
1948-49, 1952-53, 1954-55, 1957-58, 1959-60, 1961-62
Bordeaux
6
1949-50, 1983-84, 1984-85, 1986-87, 1998-99, 2008-09
7
Nice
4
1950-51, 1951-52, 1955-56, 1958-59
Lille
4
1945-46, 1953-54, 2010-11, 2020-2021
8
Sochaux
2
1934-35, 1937-38
Sète
2
1933-34, 1938-39
9
Olympique Lillois
1
1932-33
RC Paris
1
1935-36
Roubaix-Tourcoing
1
1946-47
Strasbourg
1
1978-79
Auxerre
1
1995-96
Lens
1
1997-98
Montpellier
1
2011-12


Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.