Neidio i'r cynnwys

Uwch Gynghrair Gogledd Macedonia

Oddi ar Wicipedia
Macedonian First Football League
Прва македонска фудбалска лига
GwladGogledd Macedonia
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1992
Nifer o dimau10
Lefel ar byramid1
Disgyn iAil Adran Bêl-droed Macedonia - 2. MFL
CwpanauCwpan Macedonia
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
Pencampwyr PresennolShkëndija (3ydd teitl)
(2018–19)
Mwyaf o bencampwriaethauVardar
(10 titles)
Partner teleduMRT
Arena Sport
Gwefanffm.mk
2018–19

Y Prva Makedonska Fudbalska Liga (Macedoneg: Прва македонска фудбалска лига; "Prif Gynghrair Pêl-droed Macedonia"); talfyrrir hefyd yn 1. MFL a'r Prva Liga ac yn Albaneg (iaith oddeutu 20% o'r boblogaeth),[1] Liga e parë e futbollit maqedonas, yw lefel uchaf cynghrair bêl-droed gwladwriaeth Gogledd Macedonia a adweinir, fel rheol ar lafar fel "Macedonia". Adnabwyd y wladwriaeth fel Cyn-weriniaeth Iwsoglafia, Macedonia hyd nes 2019 yn dilyn blynyddoedd o drafod gyda Gwlad Groeg oedd yn gwrthwynebu y defnydd o'r enw "Macedonia" a oedd, yn eu tŷb nhw, yn tanseilio hanes a threftadaeth Groegeg y dalaith o'r un enw sydd yn rhan o Wlad Groeg. Gweinyddir y gynghrair gan Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Macedonia.

Tlws Prva Liga Macedonia

Ganwyd pencampwriaeth Macedonia fel twrnamaint i Is-gymdeithas Bêl-droed Skopje, corff rhanbarthol Ffederasiwn Iwgoslafia, ym 1928. Roedd y timau gorau yn y Banovina Vardar hefyd yn cystadlu yn y bencampwriaeth genedlaethol, yr oedd y twrnameintiau rhanbarthol yn gweithredu fel cam cymhwyso ar ei chyfer.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ganwyd Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia, un o chwe gweriniaeth ffederal Iwgoslafia. Roedd pencampwriaeth y weriniaeth hon yn gweithredu fel twrnamaint rhanbarthol ac roedd y prif dimau'n chwarae'n rheolaidd yn y bencampwriaeth genedlaethol; er enghraifft ni chwaraeodd y Vardar erioed ym mhencampwriaeth Macedoneg yn y cyfnod hwn, ond dim ond yn yr un Iwgoslafia.

Ar ddiwedd tymor 1991-1992 gadawodd timau Macedoneg y bencampwriaeth Iwgoslafia gan gynnwys Uwch Gynghrair Iwgoslafia: yn benodol, roedd clybiau Vardar, a Pelister Bitola wedi cymryd rhan yn y twrnamaint ffederal uchaf y flwyddyn honno. O'r tymor canlynol ganwyd pencampwriaeth Macedonia, a oedd yn y flwyddyn gyntaf yn cynnwys deunaw tîm. Pencampwyr y tymor cyntaf yn 1992-93 (pan oedd 18 tîm yn yr Uwch Gynghrair) oedd Vardar Skopje. Cyn i'r wlad ennill ei hannibyniaeth, roedd timau Macedonia yn chwarae fel rhan o strwythur bêl-droed Iwgoslafia

Yn 2009-2010 gwaharddwyd tri o dimau pwysicaf y wlad o'r bencampwriaeth: Pobeda ar ôl gêm rhif 28; Makedonija, a'r Sloga Jugomagnat ar ôl gêm rhif 13 diwrnod, am beidio â chyflwyno i ddwy gêm yn olynol.[2]

Strwythur

[golygu | golygu cod]

Cymerodd 18 clwb ran yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair, yn y ddau dymor nesaf roedd gan y Prva Liga 16 clwb, yna 15 (un tymor), yna 14 clwb (5 tymor) hyd at 2001/02 pan newidiodd i 12 clwb. Mae'r bencampwriaeth bellach yn cynnwys tair clwb ac mae pob un yn chwarae tair gêm yr un.

Mae deg tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn pedair rownd ac felly'n pennu'r pencampwr. Mae'r wythfed yn y relegation, mae'r ddau olaf yn disgyn yn uniongyrchol. Sefydlwyd y gynghrair ar ôl diddymu Iwgoslafia ym 1992 a gydag hynny Uwch Gynghrair Iwgoslafia. Mae gan y gynghrair 10 tîm, ac mae pob tîm yn chwarae'r ochrau eraill bedair gwaith, am gyfanswm o 36 gêm yr un.[3]

Yn yr holl dymhorau ers ffurfio'r gynghrair, dim ond Vardar sydd wedi cymryd rhan.

Table Pencampwyr

[golygu | golygu cod]
Safle Clwb Rhif Tymor
1. Vardar Skopje 10 1993, 1994, 1995, 2002, 2003, 2012, 2013, 2015, 2016, 2017
2. Rabotnički Skopje 4 2005, 2006, 2008, 2014
3. Sileks Kratovo 3 1996, 1997, 1998
FK Sloga Jugomagnat Skopje 3 1999, 2000, 2001
5. FK Pobeda Prilep 2 2004, 2007
KF Shkëndija 3 2011, 2018, 2019
6. Makedonija Skopje 1 2009
[FK Renova Džepčište 1 2010

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Noder mai Prva Liga (Prif Gynghrair) a ddefnyddiwr gan brif adrannau pêl-droed nifer o wledydd eraill y cyn-Iwgoslafia:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.nationalia.info/new/11055/albanian-declared-official-language-across-macedonia-issue-of-us-recognition-of-rojava
  2. "Macedonia 2009/10", rsssf.com; adalwyd 16 Hydref 2022
  3. "First League". Soccerway. Global Sports Media. Cyrchwyd 19 July 2012.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.