Uwch Gynghrair Slofenia
| Gwlad | Slofenia |
|---|---|
| Cydffederasiwn | UEFA |
| Sefydlwyd | 1991 |
| Nifer o dimau | 10 |
| Lefel ar byramid | 1 |
| Disgyn i | 2. SNL (Ail Adran Slofenia |
| Cwpanau | Cwpan Slofenia |
| Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA |
| Prif sgoriwr | |
| Partner teledu | Planet TV RTV Slovenija |
| Gwefan | prvaliga.si |

Y PrvaLiga Telekom Slovenije neu, ar lafar ac yn dalfyredig, PrvaLiga yw Uwch Gynghrair pêl-droed Slofenia a phinacl system byramid cynghrair y wlad, Slovenska Nogometna Liga sy'n cynnwys 3 prif haen - dwy adran genedlaethol ac yna adrannau rhanbarthol, Gogledd, Dwyrain, De, Gorllewin. Talfyrrir enw'r Uwch Gynghrair i 1. SNL. Gweinyddir yr Uwch Gynghrair a'r cynghreiriau eraill gan Gymdeithas Bêl-droed Slofenia.
Noder hefyd mai PrvaLiga yw'r enw ar Uwch Gynghrair Croatia ac Uwch Gynghrair Gogledd Macedonia hefyd, ond mae'r tair gynghrair arwahân.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Rhwng 1920 a 1991, roedd cynghrair Slofenia yn rhan yr is-strwythur rhanbarthol yn system gynghrair yr hen wladwriaeth, Iwgoslafia. Ers annibyniaeth y wlad oddi ar Iwgoslafia, y Slovenska Nogometna Liga yw prif adran genedlaethol Slofenia. Mae enillwyr yr adran yn ennill yr hawl i gystadleu mewn pencampwyriaethau rhyngwladol Ewropeaidd UEFA.
Cyn Annibyniaeth
[golygu | golygu cod]Cyn hynny, roedd timau gorau Slofenia yn cystadlu yn system gynghrair pêl-droed Iwgoslafia am deitl cenedlaethol Iwgoslafia. Dim ond Ilirija, a Primorje ac ar ôl uno gorfodol o'r ddau dîm ym 1936, SK Ljubljana, a gyrhaeddodd adran uchaf y wlad, Uwch Gynghrair Iwgoslafia , cyn yr Ail Ryfel Byd. Olimpija, Maribor a Nafta oedd yr unig dimau o Slofenia a gymerodd ran yn yr adran uchaf rhwng 1945 a chwalfa Iwgoslafia ym 1991. Wrth fod yn rhan o system bêl-droed Iwgoslafia, cystadlodd y mwyafrif o glybiau Slofenia am deitl pencampwyr rhanbarthol yng Nghynghrair Bêl-droed Gweriniaeth Slofenia. Fodd bynnag, cynghrair y weriniaeth yn swyddogol oedd y drydedd haen o bêl-droed y rhan fwyaf o'r amser ac roedd y gystadleuaeth fel arfer heb y prif glybiau Slofenia, a chwaraeodd yn Ail Gynghrair Iwgoslafia neu adran uchaf y wlad.
Wedi Annibyniaeth
[golygu | golygu cod]
Mae strwythur y gynghrair wedi newid sawl gwaith ers ei sefydlu:
- Tymor cyntaf, 1991/92 - roedd 21 tîm yn yr uwch adran.[1][2][3]
- Ail dymor (1992-93) - gostyngwyd nifer y clybiau i 18
- Trydydd tymor (1993-94) - gostynigiad eto i dim ond 16 tîm
- Yn nymor 1995/96 dim ond deg tîm oedd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth yr Uwch Gynghrair
- Yn 1998/99 bu cynnydd i 12 clwb.
- Yn 2003-04 a 2004-05 cynhaliwyd rownd ragarweiniol lle roedd pob tîm yn cystadlu yn erbyn pob un mewn gêm gartref ac oddi cartref. Fe'i dilynwyd gan rownd bencampwriaeth, lle bu'r chwech gorau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ddwywaith eto.
- Yn 2005/06 gostyngwyd y nifer eto i 10 tîm a chyflwynodd y drefn sydd wedi para hyd yma.
Celje a Maribor yw'r unig ddau glwb nad sydd wedi disgyn o'r Uwch Gynghrair ers ei sefydlu yn 1991.[4]
Y Strwythur Gyfredol
[golygu | golygu cod]Ar hyn o bryd mae deg tîm yn cystadlu am y bencampwriaeth. Fel sy'n gyffredin nawr yn y mwyafrif o gynghreiriau yn y byd, mae yna dri phwynt i'w hennill ac un pwynt am gêm gyfartal.
Gemau Darbi
[golygu | golygu cod]- Večni derbi (Y Darbi tragwyddol) - NK Maribor vs NK Olimpija.
- Štajerski derbi (Darbi talaith Styria) - NK Maribor v NK Celje. Ras y ddwy ddinas fwyaf yn Styria.
- Primorski derbi (Darbi Primorski - yr arfordir) - NK Ankaran yn erbyn ND Gorica. Gêm rhwng dau o'r timau mwyaf llwyddiannus o Primorska.
- Ljubljanski derbi (Darbi Ljubljana - y brifddinas) - NK Domzale vs NK Olimpija. Gêm rhwng dau o dimau mwyaf llwyddiannus Canol Slofenia.
- Prekmurski derbi (Darbi Prekmurje - ardal ger y ffin â Hwngari) - NK Mura vs NK Nafta. Gêm y ddau dîm Prekmurje mwyaf llwyddiannus.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sportal (20 Mai 2011). "Zgodovina 1. SNL" [History of 1. SNL] (yn Slovenian). Siol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2016. Cyrchwyd 3 Mai 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Zgodovina" [History] (yn Slovenian). Association of 1. SNL. Cyrchwyd 3 Mai 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Zgodovina" [History] (yn Slovenian). Football Association of Slovenia. Cyrchwyd 3 Mai 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ D. S. (2 Mehefin 2019). "Sežanci vzeli Goričanom prvoligaški status" (yn Slofeneg). Nova Gorica: RTV Slovenija. Cyrchwyd 5 Mehefin 2019.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol
- Table y Lîg Archifwyd 2012-05-12 yn y Peiriant Wayback ar football.si
- Ystadegau ar rsssf.com
| |||||