Uwch Gynghrair Slofacia
| Gwlad | Slovacia |
|---|---|
| Cydffederasiwn | UEFA |
| Sefydlwyd | 1993 |
| Nifer o dimau | 12 |
| Lefel ar byramid | 1 |
| Disgyn i | 2. liga |
| Cwpanau | Slovnaft Cup |
| Cwpanau rhyngwladol | Champions League Europa League |
| Pencampwyr Presennol | ŠK Slovan Bratislava (2025–26) |
| Mwyaf o bencampwriaethau | ŠK Slovan Bratislava (15 teitl) |
| Partner teledu | Slovenská televízia, RTVS OrangeTV |
| Gwefan | http://www.fortunaliga.sk/ |
Gelwir Uwch Gynghrair Slofacia yn Super Liga. Gan mai prif noddwr cyfredol y Gynghrair yw Fortuna, gelwir yn swyddogol yn Fortuna Liga.[1] Sefydlwyd y Gynhrair yn 1993 yn dilyn rhannu hen wladwriaeth Tsiecoslofacia ar 1 Ionawr 1993. Y clwb sydd wedi ennill y mwyaf o bencampwriaethau yw ŠK Slovan Bratislava.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Cyn 1918 roedd Slofacia yn rhan o ran Hwngari o Ymerodraeth Awstria-Hwngari. Sefydlwyd rhai o glybiau'r wlad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wedi i Awstria-Hwngari (a'r Almaen) golli'r Rhyfel Mawr sefydlwyd gwladwriaeth newydd Tsiecoslofacia yn 1918. Cynhaliwyd pencampwriaeth Slofacaidd gyntaf, y Zväzové Majstrovstvá Slovenska rhwng timay o Slofacia rhwng 1925-1933. Hyd nes 1935-36 doedd dim un tîm o Slofacia wedi chwarae yng Nghynhrair Gynraf Tsiecoslofacia, cynghrair broffesiynnol y wladwrieth. Yr unig dîm o Slofacia yn yr uwch gynghrair yma oedd ŠK Slovan Bratislava.
Yn 1938 meddiannwyd Tsiecoslofacia gan y Natsiaid ac yna rhannwyd y wladwrieth, gyda Slofacia yn ennill annibyniaeth (er, gwelai nifer o bobl hyn fel gwlad byped i'r Natsiaid).[2] Bu'n rhaid i Slovan Bratislava adael cynghrair Tsiecoslofacia ac ymuno â chynghrair newydd y Slovenská liga (1939–1945) yng ngwladwriaeth newydd 'annibynnol', Slofacia.
Wedi i'r Natsiaid golli'r Ail Ryfel Byd yn 1945 ail-unwyd Slofacia gyda'r tiroedd Tsiec i ail-sefydlu Tsiecoslofacia (ond heb Ruthenia yn y dwyrain eithaf a 'wobrwyyd' i Wcráin) gan Stalin.
Bu timau Slofacia yn chwarae yng nghyngrair Tsiecoslofacia hyd nes i'r wladwriaeth hwnnw ddod i ben ar ddiwrnod olaf 1992, ac ar 1 Ionawr 1993 crewyd dwy wlawriaeth newydd, Slofacia a'r Gweriniaeth Tsiec.
Enillwyr:[3]
1925 - 1. ČsŠK Bratislava |
1938–39 - Sparta Považská Bystrica |
Noddwyr
[golygu | golygu cod]| cyfnod | Noddwr | Enw |
|---|---|---|
| 1993–1997 | Dim prif noddwr | Superliga |
| 1997–2002 | Reemtsma | Mars superliga |
| 2002–2003 | Dim prif noddwr | Superliga |
| 2003–2014 | Heineken | Corgoň liga[4] |
| 2014–2023 | Fortuna | Fortuna liga[5] |
Timau Cyfredol (2018–2019)
[golygu | golygu cod]| Tîm | Stadiwm | Capasiti neu seddi |
|---|---|---|
| FC DAC 1904 Dunajská Streda | MOL Aréna | 10,352 |
| FC Spartak Trnava | Štadión Antona Malatinského | 19,200 |
| FC ViOn Zlaté Moravce | Štadión FC ViOn | 4,000 |
| AS Trenčín | Štadión na Sihoti | 3,500 |
| FK Senica | OMS ARENA Senica | 5,070 |
| MFK Ružomberok | Štadión pod Čebraťom | 4,817 |
| ŠKF Sereď | Štadión pod Zoborom | 7,480 |
| MFK Zemplín Michalovce | Mestský futbalový štadión | 4,440 |
| MŠK Žilina | Štadión pod Dubňom | 11,313 |
| ŠK Slovan Bratislava | Štadión Pasienky | 11,591 |
| FK Železiarne Podbrezová | ZELPO Aréna | 4,061 |
| FC Nitra | Štadión pod Zoborom | 7,480 |
Source for teams:[6]
Pencampwyr yn ôl Dinas
[golygu | golygu cod]| Dinas | Teitl | Clybiau Buddugol |
|---|---|---|
| Slovan Bratislava (8), Inter Bratislava (2), Artmedia Petržalka (2) | ||
| MŠK Žilina (7) | ||
| VSS Košice (2) | ||
| AS Trenčín (2) | ||
| MFK Ružomberok (1) | ||
| FC Spartak Trnava (1) | ||
Bold indicates clubs currently playing in the top division.
Seren Aur
[golygu | golygu cod]Yn seiliedig ar syniad Umberto Agnelli, rhoddir yr anrhydeddd o wisgo Seren Aur i dîm sydd wedi ennill sawl pencampwriaeth ar eu crysau.
Dim ond dau dîm yn Super Liga sy'n cael gwisgo'r anrhydedd yma sef:
ŠK Slovan Bratislava derbyniwyd yn 2009
MŠK Žilina derbyniwyd yn 2010
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Fortuna Liga: Standings". Slovakia: National League. FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Ionawr 2012. Cyrchwyd 23 Chwefror 2012.
- ↑ "Where's My Country? Czech clubs in the German football structure 1938–1944". Rsssf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 27 Ionawr 2016.
- ↑ "Slovakia - List of Champions". www.rsssf.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Medi 2015. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
- ↑ a.s., Petit Press. "Dnes prvýkrát na futbalovú Corgoň ligu". sme.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
- ↑ Teraz.sk. "Najvyššia futbalová súťaž mení názov, novým partnerom bude Fortuna". teraz.sk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
- ↑ "Tímy". Fortuna liga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Hydref 2017. Cyrchwyd 1 Mai 2018.
| |||||