Yr Wcráin
![]() | |
''Україна Ukrayina'' | |
![]() | |
Math | Gwlad |
---|---|
Prifddinas |
Kiev ![]() |
Poblogaeth |
42,558,328 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
Shche ne vmerla Ukraina ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Volodymyr Groysman ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+2, UTC+03:00, EET ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Wcreineg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Dwyrain Ewrop ![]() |
Gwlad |
Yr Wcráin ![]() |
Arwynebedd |
603,629 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania, Moldofa, Rwsia, Yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Cyfesurynnau |
49°N 32°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Cabined y Gweinidogion ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Verkhovna Rada ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Wcráin ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Petro Poroshenko ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prif Weinidog Wcráin ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Volodymyr Groysman ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
$112,154 million ![]() |
CMC y pen |
$2,115 ±0.01 ![]() |
Arian |
hryvnia ![]() |
Chwyddiant |
12.4 ±0.1 % ![]() |
7,538,804,525 ±1 $ (UDA) ![]() | |
Canran y diwaith |
8 ±1 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.498 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.747 ![]() |
Gwefan |
www.kmu.gov.ua/control/en ![]() |
Gwlad a gweriniaeth yn nwyrain Ewrop yw'r Wcráin. Ystyr y gair "Wcráin" yw'r "wlad gyda ffiniau" (yn debyg i'r "Mers" rhwng Cymru a Lloegr, a gwledydd cyfagos iddi yw Ffederasiwn Rwsia, Belarws, Gwlad Pwyl, Slofacia, Hwngari, Rwmania a Moldofa. Ei ffin i'r de yw'r Y Môr Du ac i'r de ddwyrain ohoni mae'r Môr Azov.
Mae gan yr Wcráin arwynebedd o 603,628 km2 (233,062 mi sg), sy'n ei gwneud hi'r wlad fwyaf yn Ewrop (o'r gwledydd hynny sy'n gyfangwbwl o fewn Ewrop).[1][2][3]
Gwladychwyd neu meddianwyd ei thiroedd gan fodau dynol tua 44,000 o flynyddoedd yn ôl,[4] ac mae'n ddigon posib mai yma y dofwyd y ceffyl am y tro cyntaf,[5][6][7] a'r fan lle y cychwynwyd siarad Ieithoedd Indo-Ewropeaidd.
Mae ehangder ei thiroedd a'i ffermydd ffrwythlon dros y blynyddoedd yn golygu ei bod ymhlith y gwledydd gorau am gynhyrchu grawn ac yn 2011, yr Wcráin oedd y trydydd gorau drwy'r byd.[8] Yn ô Cyfundrefn Masnach y Byd, mae'r Wcráin, felly'n un o'r 10 gwlad mwyaf dymunol i'w meddiannu.[9] Ar ben hyn, mae ganddi un o'r diwydiannau creu awyrennau gorau.
Ceir poblogaeth o oddeutu 44.6 miliwn o bobl[10] gyda 77.8% ohonyn nhw o darddiad Wcreinaidd, 17% yn Rwsiaid, Belarwsiaid, Tatariaid neu'n Rwmaniaid. Wcreineg yw'r iaith swyddogol a'i hwyddor yw'r wyddor Gyrilig Wcraneg. Siaredir y Rwsieg hefyd gan lawer. Y crefydd mwyaf poblogaidd yn y wlad yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol sydd wedi dylanwadu'n helaeth ar bensaerniaeth y wlad yn ogystal a'i llenyddiaeth a'i cherddoriaeth.
Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd.
Cynnwys
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd: Rhestr dinasoedd yr Wcráin.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
O'r 9g ymlaen, roedd y diriogaeth a elwir yn yr Wcráin erbyn hyn yn ganolbwynt i wareiddiad Slafaidd Dwyreiniol. Yn ystod y canrifoedd dilynol, fe'i rhanwyd rhwng nifer o rymoedd rhanbarthol. Wedi cyfnod byr o annibyniaeth wedi Chwyldro Rwsia ym 1917, daeth y wlad yn un o'r Gweriniaethau Sofietaidd cyntaf ym 1922. Estynwyd tiriogaeth Gweriniaeth Sofietaidd yr Wcráin tua'r gorllewin wedi'r Ail Ryfel Byd, ac eto ym 1954. Daeth yr Wcráin yn annibynnol unwaith eto wedi dymchwel yr Undeb Sofietaidd ym 1991.
Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]
Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn ôl Cyfrifiad yr Wcráin 2001, mae'r Wcreiniaid ethnig yn ffurfio 77.8% o'r boblogaeth. Grwpiau mawr eraill ydy'r Rwsiaid (17.3%), Belarwsiaid (0.6%), Moldofiaid (0.5%), Tatariaid Crimea (0.5%), Bwlgariaid (0.4%), Hwngariaid (0.3%), Rwmaniaid (0.3%), Pwyliaid (0.3%), Iddewon (0.2%), Armeniaid (0.2%), Groegwyr (0.2%) a'r Tatariad eraill (0.2%). Poblogaeth wrban sy gan yr Wcráin gyda 67.2% yn byw mewn trefi.
Ers degawd a mwy mae argyfwng demograffaidd yn y wlad gyda mwy yn marw na'r genedigaethau. Genedigaethau 9.55 /1,000 poblogaeth, Marwolaethau 15.93 /1,000 poblogaeth. Mae lefel iechyd isel yn y wlad yn cyfrannu at hyn ac yn 2007 roedd y boblogaeth yn gostwng ar y pedwerydd gyflymdra yn y byd.
Telir 12,250 hryvnia (tua £120) am y plentyn cyntaf, 25,000 hryvnia (tua £250) am yr ail a 50,000 hryvnia (tua £500) am y trydydd a phedwerydd. Dim ond mewn chwarter o'r ardaloedd mae cynnydd poblogaeth - i gyd yng ngorllewin y wlad. Rhwng 1991 a 2004, symudodd tua 3.3 miliwn i mewn i'r Wcráin (o'r Undeb Sofietaidd) ac aeth 2.5 miliwn allan - y rhan fwyaf i'r Undeb Sofietaidd. Yn 2006, roedd tua 1.2 million Canadiaid o dras Wcreiniaid yn arbennig yng ngorllewin Canada.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() ![]() ![]() |
![]() |
![]() | ||
| ||||
![]() | ||||
![]() ![]() ![]() |
Y Môr Du | Môr Azov![]() |
Cyfesurynnau: 49°N 32°E / 49°N 32°E
Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS) |
||
---|---|---|
Aelodau | Armenia · Aserbaijan · Belarws · Casachstan · Cyrgystan · Moldofa · Rwsia · Tajicistan · Wsbecistan |
|
Cymdeithion-aelodau | Tyrcmenistan |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Chin, Richard (2011). Global Clinical Trials. Elsevier. p. 345. ISBN 0-12-381537-1.
- ↑ Evans, Chandler (2008). Future of Google Earth. BookSurge. p. 174. ISBN 1-4196-8903-7.
- ↑ "Basic facts about Ukraine". Ukrainian consul in NY. http://www.ukrconsul.org/BASIC_FACTS.htm. Adalwyd 10 Tachwedd 2010.
- ↑ Gray, Richard (18 Rhagfyr 2011). "Neanderthals built homes with mammoth bones". Daily Telegraph (London). http://www.telegraph.co.uk/science/science-news/8963177/Neanderthals-built-homes-with-mammoth-bones.html. Adalwyd 8 January 2014.
- ↑ Matossian Shaping World History tud. 43
- ↑ "What We Theorize – When and Where Did Domestication Occur". International Museum of the Horse. http://imh.org/index.php/legacy-of-the-horse-full-story/the-domestication-of-the-horse/what-we-theorize-when-and-where-did-domestication-occur/. Adalwyd 12 Rhagfyr 2010.
- ↑ "Horsey-aeology, Binary Black Holes, Tracking Red Tides, Fish Re-evolution, Walk Like a Man, Fact or Fiction". Quirks and Quarks Podcast with Bob Macdonald (CBC Radio). 7 Mawrth 2009. http://www.cbc.ca/quirks/episode/2009/03/07/horsey-aeology-binary-black-holes-tracking-red-tides-fish-re-evolution-walk-like-a-man-fact-or-ficti/. Adalwyd 18 September 2010.
- ↑ "Ukraine becomes world's third biggest grain exporter in 2011 – minister" (Press release). Black Sea Grain. 20 Ionawr 2012. http://www.blackseagrain.net/data/news/ukraine-becomes-worlds-third-biggest-grain-exporter-in-2011-minister. Adalwyd 31 Rhagfyr 2013.
- ↑ "World Trade Report 2013". World Trade Organisation. http://www.wto.org/english/res_e/publications_e/wtr13_e.htm. Adalwyd 2014-01-26.
- ↑ Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref'pop
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llywodraeth