Drevlyane
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o lwythi'r Slafiaid dwyreiniol oedd y Drevlyane (Rwsieg Древляне / Drevlyane, Wcraineg Деревляни / Derevlyany). Roedden nhw'n byw mewn ardaloedd sydd heddiw yng ngogledd Wcrain. Eu prifddinas oedd Iskorosten (heddiw Korosten). Fe'u gorfodwyd i dalu teyrneg i Kiev o dan Dywysog Oleg yn 883. Lladdodd y Drevlyane mab Oleg, Igor, mewn gwrthryfel yn 945. Yn sgil y digwyddiad hwn, dialodd gweddw Igor, Olga, ei gŵr drwy oresgyn y Drevlyane, gan ladd eu pendefigion a llosgi Iskorosten i'r llawr. Mae'r Drevlyane yn diflannu o'r cyfnod hanesyddol yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'r cyfeiriad olaf atynt yn dyddio i 1136. Mae enw'r Drevlyane yn tarddu o'r gair Hen Slafoneg Ddwyreiniol derevo 'coeden', gan i'r Drevlyane fyw mewn ardaloedd coedwig.