Llywodraeth seneddol
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio

Gwahanol systemau seneddol o gwmpas y byd: Gweriniaethau seneddol a chanddynt oruchafiaeth dros bennaeth y wladwriaeth. Gweriniaethau seneddol a chanddynt arlywydd sy'n dibynnu ar gefnogaeth y ddeddfwrfa. Breniniaethau cyfansoddiadol sy'n ymddiried awdurdod yn y senedd.
Ffurf ar lywodraeth a chanddi adran weithredol sy'n cael ei gyfreithlondeb democrataidd o senedd neu gynulliad deddfu tebyg yw llywodraeth seneddol neu ddemocratiaeth seneddol. Fel arfer, corff etholedig ydy'r ddeddfwrfa, a'i swyddogaethau yw craffu ar ddeddfwriaeth ac awdurdodi'r gyfraith statudol, arolygu a rheoli gwariant cyhoeddus, goruchwylio gweithgareddau'r adran weithredol, a chynrychioli etholwyr y wlad. Mae'r mwyafrif o lywodraethau seneddol yn defnyddio pwyllgorau i graffu ar ddeddfwriaeth a phroses y gyllideb. Yn y mwyafrif o systemau seneddol, mae swyddogion yr adran weithredol, hynny yw gweinidogion y llywodraeth, yn aelodau'r senedd.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ David Robertson, The Routledge Dictionary of Politics 3ydd argraffiad (Llundain: Routledge, 2004), tt. 368–9.