Volodymyr Zelenskyy
Volodymyr Zelenskyy | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Зелёный ![]() |
Llais | Volodymyr Zelenskyy voice.ogg ![]() |
Ganwyd | 25 Ionawr 1978 ![]() Kryvyi Rih ![]() |
Man preswyl | Mariinskyi Palace, Erdenet, Kryvyi Rih ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, digrifwr, cyflwynydd, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor, cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu, diddanwr, canwr, digrifwr, gwneuthurwr ffilm, dyn sioe, KVN actor, dynwaredwr ![]() |
Swydd | Arlywydd Wcráin, Supreme Commander of the Armed Forces of Ukraine ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Servant of the People ![]() |
Arddull | parodi, comedi, digrifwch, dychan gwleidyddol ![]() |
Prif ddylanwad | Alexander Maslyakov ![]() |
Taldra | 167 centimetr ![]() |
Plaid Wleidyddol | Gwas y Bobl ![]() |
Tad | Oleksandr Zelenskyj ![]() |
Mam | Rimma Zelenska ![]() |
Priod | Olena Zelenska ![]() |
Plant | Kyrylo Zelenskyi, Oleksandra Zelenska ![]() |
Gwobr/au | Diploma Anrhydeddus Gweinidogion Cabined Wcráin, Teletriumph, Gwobr Ryddid Ronald Reagan, Uwch-Groes o Urdd y Llew Gwyn, Grand Cross with collar of the Order of Vytautas the Great, State Award of Alexander Dubček, Tallin Medal, Person y Flwyddyn y Financial Times, Person y Flwyddyn Time, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Philadelphia Liberty Medal, Boris Nemtsov Prize, Gwobr Sakharov, Urdd yr Eryr Gwyn, Gwobr Siarlymaen, Gwobr Proffil Dewrder, Global Citizen Awards, weapon of honor, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Grand Cross with collar of the Order of Vytautas the Great, Order of Viesturs, 1st class, Grand Collar of the Order of Liberty, Grand Cross of the Order of the White Double Cross, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir ![]() |
Gwefan | https://president.gov.ua ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gwladweinydd o Wcráin yw Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy[1][2] (Wcreineg: Володимир Олександрович Зеленський, [woloˈdɪmɪr olekˈsɑndrowɪdʒ zeˈlɛnʲsʲkɪj]; trawslythrennu: Folodimir Selensgi; ganwyd 25 Ionawr 1978).[3] Roedd e'n actor a digrifwr cyn dod yn arlywydd yr Wcráin yn 2019. Enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang fel arweinydd yr Wcráin yn ystod y rhyfel yn ystod goresgyniad Rwsia ar y wlad.[4][3]
Cafodd Volodymyr Oleksandrovych Zelenskyy ei eni yn Kryvyi Rih, i rieni Iddewig.[5][6][7] Mae ei dad, Oleksandr Zelenskyy, yn athro ac yn bennaeth yr Adran Seiberneteg a Chaledwedd Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Economeg a Thechnoleg Talaith Kryvyi Rih; roedd ei fam, Rymma Zelenska, yn arfer gweithio fel peiriannydd. Enillodd radd yn y gyfraith gan Sefydliad Economeg Kryvyi Rih, oedd yn adran o Brifysgol Economaidd Genedlaethol Kyiv ar y pryd, ac sydd bellach yn rhan o Brifysgol Genedlaethol Kryvyi Rih.[6] Rwsieg yw ei iaith gyntaf, ond mae hefyd yn siarad Wcreineg.
Priododd Zelenskyy Olena Kiyashko ym mis Medi 2003.[6] Ganed merch gyntaf y cwpl, Oleksandra, ym mis Gorffennaf 2004.[6] Ganed eu mab, Kyrylo, ym mis Ionawr 2013.[6]
Ymdrechion diplomyddol yn 2025
[golygu | golygu cod]
Ym mis Chwefror 2025 ymwelodd yr Arlywydd Zelenskyy â'r Unol Daleithiau er mwyn trafod setliad heddwch posibl. Yn fuan, trodd y cyfarfod yn ddadl gyda Trump a'r Is-lywydd Vance, a ymosododd y ddau ar Zelenskyy. Cododd Trump a Vance eu lleisiau er mwyn atal Zelenskyy rhag cymryd rhan yn y drafodaeth. Cafodd gweithgareddau eraill a gynlluniwyd eu canslo a chafodd Zelenskyy ei droi allan o'r Tŷ Gwyn.[8]
Y diwrnod canlynol, ymddangosodd Zelenskyy ochr yn ochr â Syr Keir Starmer ac arweinwyr Ewropeaidd eraill mewn uwchgynhadledd yn y DU.[9] Wedi hynny, fe'i gwahoddwyd i Sandringham i gyfarfod â Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae enw Zelenskyy wedi'i drawslythrennu mewn sawl ffordd wahanol. Dickinson, Peter (9 Mehefin 2019). "Zelensky, Zelenskiy, Zelenskyy: Spelling Confusion Doesn't Help Ukraine". Atlantic Council (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mehefin 2019. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ Mendel, Iuliia (10 Mehefin 2019). "Dear colleagues, this is the official form of the last name that the President has in his passport. This was decided by the passport service of Ukraine. The President won't be offended if BBC standards assume different transliteration". @IuliiaMendel (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
- ↑ 3.0 3.1 "Ukraine's Volodymyr Zelenskyy: From comedian to national hero". Deutsche Welle (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
- ↑ "Actor-turned-president Zelensky grows on stage as Ukraine's war-time leader". Times of Israel (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.
- ↑ "ethnic Ukrainian father's farer's medal certificate" (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mehefin 2020. Cyrchwyd 12 Hydref 2019.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 "Зеленский Владимир" (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Ionawr 2019. Cyrchwyd 2 Ionawr 2019.
- ↑ Higgins, Andrew (24 Ebrill 2019). "Ukraine's Newly Elected President Is Jewish. So Is Its Prime Minister. Not All Jews There Are Pleased". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ebrill 2019. Cyrchwyd 25 Ebrill 2019.
- ↑ "Zelenskyy leaves White House early after Trump argument". NPR (yn Saesneg). 2025-02-28. Cyrchwyd 1 Mawrth 2025.
- ↑ "Prime Minister Keir Starmer to host leaders summit on Ukraine". UK Government (yn Saesneg). 2025-03-02. Cyrchwyd 2 Mawrth 2025.
- ↑ Tom McArthur (2 Mawrth 2025). "Warm reception for Zelensky as he meets King at Sandringham". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mawrth 2025.