Mikhail Gorbachev

Oddi ar Wicipedia
Михаил Сергеевич Горбачёв
Mikhail Sergeyevich Gorbachev
Mikhail Gorbachev


Arlywydd yr Undeb Sofietaidd
Cyfnod yn y swydd
15 Mawrth 1990 – 25 Rhagfyr 1991
Is-Arlywydd(ion)   Gennady Yanayev
Olynydd Boris Yeltsin (Arlywydd Rwsia)

Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd
Cyfnod yn y swydd
11 Mawrth 1985 – 24 Awst 1991
Rhagflaenydd Konstantin Chernenko
Olynydd Vladimir Ivashko

Geni 2 Mawrth 1931
Stavropol, SFSR Rwsia
Plaid wleidyddol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1950-1991)
Priod Raisa Gorbachyova
Llofnod

Roedd Mikhail Sergeyevich Gorbachev (Rwsieg: Михаи́л Серге́евич Горбачёв; trawslythrennu: Michail Gorbatsiof)[1] (2 Mawrth 193130 Awst 2022)[2] yn wleidydd Rwsiaidd a fu am gyfnod yn arlywydd yr Undeb Sofietaidd. Ef oedd yr wythfed Arlywydd, a'r olaf. Fe'i disgrifiwyd fel ffigwr byd pwysicaf chwarter olaf yr 20fed ganrif.[3]

Roedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd (1985-1991) ac arlywydd olaf yr Undeb Sofietaidd, yn dal y swydd honno o 1985 hyd ddiddymiad yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd ei ymgeisiau i adnewyddu'r wladwriaeth, sef perestroika ("ailstrwythuro") a glasnost ("bod yn agored"), yn elfennau amlwg yn y broses o ddod a'r Rhyfel Oer i ben ac i ail-greu'r Undeb Sofietaidd, gan ei throi o fod yn wlad Gomiwnyddol ac at Gyfalafiaeth. Fe dderbyniodd Fedal Heddwch Otto Hahn yn 1989, Wobr Heddwch Nobel yn 1990 a Gwobr Harvey yn 1992.

Drwy ailstrwythuro'r Undeb Sofietaidd, diddymwyd grym y Blaid Gomiwnyddol o fewn cyfansoddiad y wlad; drwy gynlluniau Gorbachev newidiwyd ei rôl o fod yn un a oedd yn tra-arglwyddiaethu ac yn rheoli'r wladwriaeth gydag awenau tynn i greisis ac ansefydlogrwydd gwleidyddol, ymchwydd gref o wrth-Gomiwnyddiaeth ac yna, fel penllanw i'r cyfan, diddymiad yr Undeb Sofietaidd. Mynegodd siom iddo fethu a gwneud hyn ond cadw'r hen CCCP (neu'r 'USSR') a dywedodd mai gwelliannau a diwygiadau oedd ei bolisïau a lwyddodd yn y diwedd er i rai geisio eu tanseilio a chymryd y clod oddi wrtho.

Y blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Stavropol Krai i deulu gwerinol, cyffredin o Wcrain-Rwsiaidd. Maria (ganwyd Gopkalo) a Sergey Gorbachev oedd ei rhieni.[3] Yn hogyn ifanc arferai yrru peiriant cynaeafu gwair ar ffermydd cyfagos. Graddiodd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Mosgow yn 1955, lle ymunodd gyda'r Blaid Gomiwnyddol. Cafodd ei ethol yn swyddog o Gymdeithas Talaith Stavropol yn 1970, ac yn Ysgrifennydd Cyntaf y mudiad cenedlaethol yn 1974 a'r Politburo erbyn 1979. Etholwyd ef yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Politburo yn 1985, dair blynedd wedi marwolaeth Leonid Brezhnev.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://pedwargwynt.cymru/adolygu/os-nad-y-fi-pwy-ac-os-nad-yn-awr-pryd
  2. Reuters (2022-08-30). "Mikhail Gorbachev, who ended the Cold War, dies aged 91, Russian media reports". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-30.
  3. 3.0 3.1 Jonathan Steele (31 Awst 2022). "Mikhail Gorbachev obituary". The Guardian. Cyrchwyd 31 Awst 2022.


Baner RwsiaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.