Crai Stavropol
| Math | krai of Russia, federal subject of Russia |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Sergo Ordzhonikidze |
| Prifddinas | Stavropol |
| Poblogaeth | 2,884,363 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Vladimir Vladimirov |
| Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws |
| Sir | Rwsia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 66,160 km² |
| Yn ffinio gyda | Crai Krasnodar, Oblast Rostov, Gweriniaeth Kalmykia, Dagestan, Tsietsnia, Gogledd Osetia, Kabardino-Balkaria, Karachay-Cherkessia |
| Cyfesurynnau | 45.05°N 43.27°E |
| RU-STA | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Regional Parliament of Stavropol Krai |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Stavropol |
| Pennaeth y Llywodraeth | Vladimir Vladimirov |
![]() | |


Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Stavropol (Rwseg: Ставропо́льский край, Stavropolsky kray; 'Stavropol Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Stavropol. Poblogaeth: 2,786,281 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws, yn ne Rwsia. Mae'n gorwedd yn rhan ogleddol Mynyddoedd y Cawcasws. Llifa Afon Kuma ac Afon Kuban drwy'r ardal ac mae mwyafrif y boblogaeth yn byw yn nyffrynnoedd y ddwy afon hyn. Mae'r crai yn ffinio gyda Oblast Rostov, Crai Krasnodar, Gweriniaeth Kalmykia, Gweriniaeth Dagestan, Gweriniaeth Tsietsnia, Gweriniaeth Gogledd Ossetia–Alania, Gweriniaeth Kabardino-Balkar, a Gweriniaeth Karachay–Cherkess.
Sefydlwyd Crai Stavropol ar 10 Ionawr, 1934, yn yr hen Undeb Sofietaidd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol y crai Archifwyd 2015-11-29 yn y Peiriant Wayback
