Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws
Gwedd
| Enghraifft o: | dosbarth ffederal |
|---|---|
| Crëwr | Dmitry Medvedev |
| Poblogaeth | 10,310,935 |
| Rhan o | De Rwsia, Rwsia Ewropeaidd |
| Dechrau/Sefydlu | 19 Ionawr 2010 |
![]() | |
| Enw brodorol | Северо-Кавказский федеральный округ |
| Gwladwriaeth | Rwsia |
| Rhanbarth | Rwsia |
| Gwefan | http://skfo.gov.ru/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09v9khv |
Mae Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Rwseg: Се́веро-Кавка́зский федера́льный о́круг, Severo-Kavkazsky federalny okrug) yn un o wyth dosbarth ffederal Rwsia. Fe'i lleolir yn ne-orllewin eithaf Rwsia, yn ardal ddaearyddol Gogledd y Cawcasws. Crëwyd Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws ar 19 Ionawr 2010 pan gafodd ei dorri allan o'r Dosbarth Ffederal Deheuol.
Roedd cyfanswm poblogaeth y rhanbarthau a gweriniaethau yn y dosbarth yn 9,428,826 yn ôl Cyfrifiad Rwsia 2010.
Canolfan weinyddol y dosbarth yw dinas Pyatigorsk. Y Cennad arlywyddol cyfredol (2013) yw Alexander Khloponin.

Rhanbarthau a gweriniaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r dosbarth yn cynnwys chwe gweriniaeth ymlywodraethol ac un crai, fel a ganlyn:
- Gweriniaeth Dagestan
- Gweriniaeth Ingushetia
- Gweriniaeth Kabardino-Balkar
- Gweriniaeth Karachay-Cherkess
- Gweriniaeth Gogledd Ossetia-Alania
- Crai Stavropol
- Gweriniaeth Tsietsnia

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2013-07-31 yn y Peiriant Wayback
| |||||

