Gweriniaeth Kalmykia
Gwedd
| Math | gweriniaethau Rwsia, federal subject of Russia |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Kalmyks |
| Prifddinas | Elista |
| Poblogaeth | 267,588 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Khalmg Tanghchin chastr |
| Pennaeth llywodraeth | Batu Khasikov |
| Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Kalmyk |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Rwsia Ewropeaidd, Dosbarth Ffederal Deheuol |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 75,000 km² |
| Yn ffinio gyda | Oblast Astrakhan, Oblast Volgograd, Oblast Rostov, Crai Stavropol, Dagestan |
| Cyfesurynnau | 46.57°N 45.32°E |
| RU-KL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | People's Khural of Kalmykia |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Head of Kalmykia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Batu Khasikov |
![]() | |

Gweriniaeth yn ne-orllewin Ffederasiwn Rwsia yw Kalmykia (neu Kalmyk). Mae ganddi arwynebedd tir o 75900 km² (29305 miltir sgwar) ac mae'n gorwedd ar lan Môr Caspia rhwng afonydd Volga a Don. Mae'n ffinio â Gweriniaeth Dagestan i'r de, Stavropol Krai i'r de-orllewin, ac Oblastau Rostov a Volgograd i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin. I'r dwyrain mae'n ffinio ag oblast Astrakhan. Mae ganddi boblogaeth o 319,000 (1996), gyda tua 45% yn bobl Kalmyk a thua 38% yn Rwsiaid. Bwdhiaeth yw crefydd dradoddiadol y wlad. Mae'r iaith Kalmyk yn perthyn i'r ieithoedd Mongolaidd. Prifddinas y weriniaeth yw Elista.


