Rwsia Ewropeaidd

Oddi ar Wicipedia
Rwsia Ewropeaidd
Map o Ewrasia gyda ffin Rwsia wedi ei amlinellu'n goch, a Rwsia Ewropeaidd wedi ei lliwio'n goch.
Mathrhanbarth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Ewrop Edit this on Wikidata
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd4,000,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60°N 50°E Edit this on Wikidata
Map

Y rhan orllewinol o Ffederasiwn Rwsia, a leolir yn ddaearyddol yn Nwyrain Ewrop, yw Rwsia Ewropeaidd (Rwseg: Европейская Россия, европейская часть России) neu Rwsia yn Ewrop. Dyma'r rhan fwyaf ddwyreiniol o gyfandir Ewrop, a rennir oddi ar weddill Rwsia—Siberia, neu Rwsia yn Asia—gan Fynyddoedd yr Wral, Afon Wral a Môr Caspia.[1], sy'n diffinio'r ffin rhwng Ewrop ac Asia.[2] Gwlad drawsgyfandirol felly yw Rwsia, sy'n ymestyn dros y rhan fwyaf o ogledd yr uwchgyfandir Ewrasia, gan gynnwys holl diriogaeth Gogledd Asia. Mae gan Rwsia Ewropeaidd arwynebedd o 3.9 miliwn km2, ac er ei bod yn cynnwys llai na 25% o diriogaeth Rwsia, mae'n cynnwys 110 miliwn o bobl, rhyw 77% o boblogaeth y ffederasiwn. Mae Rwsia Ewropeaidd yn cyfri am y rhan fwyaf o dir Dwyrain Ewrop, a rhyw 40% o dirfas Ewrop oll, ac yn cynnwys mwy na 15% o boblogaeth y cyfandir. Rwsia felly ydy'r wlad fwyaf yn Ewrop yn nhermau ei harwynebedd a'i phoblogaeth. Yn Rwsia Ewropeaidd lleolir nifer o ddinasoedd mwyaf y wlad, gan gynnwys Moscfa a St Petersburg.

Estynna Rwsia Ewropeaidd o ffiniau'r wlad â Norwy, y Ffindir, Estonia, Latfia, Belarws, ac Wcráin yn y gorllewin i Fynyddoedd yr Wral yn y dwyrain. I'r gogledd mae Cefnfor yr Arctig, gan gynnwys Môr Barents, ac i'r de mae Mynyddoedd y Cawcasws (a ffiniau Rwsia â Georgia ac Aserbaijan), y Môr Du a Môr Azov i'r de-orllewin, a Môr Caspia i'r de-ddwyrain. Yng ngogledd-orllewin y rhanbarth mae gwastatir isel gyda thirwedd gymysg o goedwigoedd, llynnoedd, a chorsydd a elwir Gwastadedd Dwyrain Ewrop, sy'n rhan o Wastadedd Mawr Ewrop[3]. Tua'r dwyrain mae'r tir yn fwy amrywiol, gan gynnwys Ucheldir Canolbarth Rwsia a basn Afon Volga cyn cyrraedd ardal yr Wral.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Orenburg bridge monument photos". katjasdacha.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-05-23. Cyrchwyd 2023-07-17.
  2. National Geographic Maps (Firm) (2011) (yn en), Atlas of the world, Washington, D.C.: National Geographic Society, ISBN 978-1-4262-0632-0, OCLC 671359683, https://www.worldcat.org/oclc/671359683, adalwyd 9 Ionawr 2021
  3. (Saesneg) European Plain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2016.