Dagestan
![]() | |
![]() | |
Math | gweriniaethau Rwsia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Makhachkala ![]() |
Poblogaeth | 3,232,224 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Swyddogol Dagestan |
Pennaeth llywodraeth | Sergey Melikov ![]() |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, UTC+03:00, Ewrop/Moscfa ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Aghul, Avar, Aserbaijaneg, Tsietsnieg, Dargwa, Kumyk, Lak, Lezgian, Nogai, Rwtwleg, Tabasaran, Tsakhur ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws, Dosbarth Ffederal Deheuol ![]() |
Sir | Dagestan |
Gwlad | Rwsia ![]() |
Arwynebedd | 50,300 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Gweriniaeth Kalmykia, Crai Stavropol, Tsietsnia ![]() |
Cyfesurynnau | 42.9839°N 47.505°E ![]() |
RU-DA ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Pobl Gweriniaeth Dagestan ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Head of the Respublic of Dagestan ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Sergey Melikov ![]() |
![]() | |
Mae Dagestan (/ ˌdæɡɪˈstæn, -ˈstɑːn /; Rwsieg: Дагеста́н), yn swyddogol Y Weriniaeth Dagestan (Rwseg: Респу́блика Дагеста́н), yn weriniaeth yn Rwsia sydd wedi'i lleoli ar Fôr Caspia, yng Ngogledd y Cawcasws yn Nwyrain Ewrop. Ar flaen deheuol Rwsia, mae'r weriniaeth yn rhannu ffiniau tir â gwledydd Aserbaijan a Georgia i'w de a'i de-orllewin; ac yn ffinio a'r gweriniaethau Rwsiaidd Tsietsnia a Kalmykia i'r gorllewin a'r gogledd, wrth ffinio â Crai Stavropol i'r gogledd-orllewin. Makhachkala yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf; mae yna ddinasoedd eraill yno fel Derbent, Kizlyar, Izberbash, Kaspiysk a Buynaksk.
Mae'r weriniaeth yn cwmpasu ardal o 50,300 cilomedr sgwâr (19,400 milltir sgwâr), gyda phoblogaeth o dros 3 miliwn o drigolion. Mae'n un o'r rhai mwyaf amrywiol yn ieithyddol ac yn ethnig, yn ogystal â gweriniaeth fwyaf heterogenaidd Rwsia. Mae trigolion y weriniaeth yn siarad ieithoedd Gogledd y Cawcasws a ieithoedd Tyrcaidd yn bennaf, ond Rwsieg yw brif iaith yn y weriniaeth.