Llyn Ilmen
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oblast Novgorod |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 982 km² |
| Uwch y môr | 18 metr |
| Cyfesurynnau | 58.27°N 31.28°E |
| Dalgylch | 67,200 cilometr sgwâr |
| Hyd | 45 cilometr |
![]() | |
Llyn yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Llyn Ilmen (Rwseg Озеро Ильмень / Ozero Ilmen). Fe'i lleolir yng ngorllewin Oblast Novgorod, 6 km i'r de o ddinas Novgorod. Ei hyd yw 40 km, a'i led ar ei uchaf yw 32 km. Mae ei arwynebedd yn amrywio o 733 i 2090 km2 yn ôl lefel y dŵr. Mae'n llyn bas: ei ddyfnder yn ei fan dyfnaf yw 10m. Mae ei lannau'n fflat, ac, yn y dde, yn gorsog. Mae Afon Volkhov yn llifo allan ohono i'r gogledd yn rhedeg tuag at Lyn Ladoga, sy'n arwain yn y pendraw at Gwlff y Ffindir dros Afon Neva a St Petersburg.
