Sgythia
Gwedd
Yn yr Henfyd, Sgythia[1] (Hen Roeg: Σκυθία Skythia) oedd yr enw ar yr ardal yn Ewrasia lle trigai'r Sgythiaid, o'r 8fed ganrif CC hyd yr 2g OC. Roedd ei ffiniau yn amrywio dros amser; tueddai i ymestyn ymhellach i'r gorllewin nag ar y map.
Roedd Sgythia fel rheol yn cynnwys:
- Y Paith Pontig-Caspaidd: Casacstan, De Rwsia a dwyrain Wcráin
- Gogledd y Cawcasws, yn cynnwys Aserbaijan a Georgia
- Sarmatia, Wcráin, Belarws, Gwlad Pwyl hyd at yr Oceanus Sarmaticus
- De'r Wcráin a rhan isaf afon Donaw gyda rhan o Bwlgaria (Sgythia Leiaf)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Geiriadur yr Academi". Cyrchwyd 5 Mawrth 2020.