Sarmatiaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
"Sarmatia Europæa" wedi ei rhannu oddi wrth "Sarmatia Asiatica" gan Afon Tanais (Afon Don yn Rwsia heddiw). Map o tua 1770, yn seiliedg ar yr haneswyr Groegaidd.

Roedd y Sarmatians, Sarmatae neu Sauromatae (Hen Roeg: Σαρμάται, Σαυρομάται) yn gydffederasiwn enfawr o bobl o dras Iranaidd hynafol[1][2] a ymfudodd o Ganolbarth Asia i ardal Mynyddoedd yr Wral tua'r 5ed ganrif CC. Ceir cyfeiriad atynt gan Herodotus yn y cyfnod yma.

Pan oedd eu tiriogaeth ar ei fwyaf, roedd yn ymestyn o Afon Fistula hyd aber Afon Donaw ac o wlad yr Hyperboreaid yn y gogledd hyd at y Môr Du a Môr y Caspian a'r ardal rhyngddynt cyn belled a Mynyddoedd y Cawcasws. Mae'r darganfyddiadau mwyaf nodedig o feddau ac olion eraill wedi eu gwneuf yn Krasnodar Krai yn Rwsia.

Roedd y Sarmatiaid yn perthyn yn agos i'r Scythiaid. Bu cryn lawer o ymladd rhyngddynt hwy a'r Ymerodraeth Rufeinig, ac yn y 4edd ganrif gwnaethant gynghrair a'r Hyniaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Zakiev M. Z., Problems of the history and language, Who are the Alans?, Kazan, 1995
  2. (William Hearth, ORMUS: Timeline of Ancients, 2007, s.174)