Sefydliad Masnach y Byd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cyfundrefn Masnach y Byd)
Jump to navigation Jump to search
Fourth Global Review of Aid for Trade 1691 (9237986689).jpg
World Trade Organization (logo and wordmark).svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol sefydliad rhyngwladol, mudiad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu 1 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata
Lleoliad CAnolfan William Rappard Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliad Rheolwr Gyfarwyddwr Sefydliad Masnach y Byd Edit this on Wikidata
Gweithwyr 640 Edit this on Wikidata
Pencadlys CAnolfan William Rappard Edit this on Wikidata
Gwefan https://www.wto.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfundrefn ryngwladol yw Sefydliad Masnach y Byd (Ffrangeg: Organisation mondiale du commerce, OMC; Saesneg: World Trade Organization, WTO; Sbaeneg: Organización Mundial del Comercio, OMC) sy'n ymwneud â'r rheolau sy'n rheoli masnach ryngwladol rhwng gwledydd. Craidd y gyfundrefn yw Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd a gychwynwyd yn 1 Ionawr 1995 ac a arwyddwyd yn Ebrill 2004 ym Marrakech, Moroco, gan y rhan fwyaf o bwerau economaidd mawr y byd ac a gydnabuwyd ar ôl hynny gan eu seneddau. Bwriad swyddogol y sefydliad yw cynorthwyo cynhyrchwyr nwyddau a gwasanaethau, allforwyr a mewnforwyr, i weithredu a hynny trwy gyfyngu rhwystrau i fasnach. Yn 2017 roedd gan y gyfundrefn 164 aelod-wladwriaeth. Nid yw Iran a rhan helaeth y byd Arabaidd yn aelodau. Ffrangeg, Sbaeneg a Saesneg yw ei hieithoedd swyddogol.[1][2]

Ers 2001, mae Sefydliad Masnach y Byd yn dilyn cyfarwyddiadau Cylch Doha, a gytunwyd yn Doha, prifddinas Qatar, sef 'Popeth Ond Arfau'. Er nad yw'n un o asiantaethau arbennig y Cenhedloedd Unedig, mae ganddo gysylltiadau â'r gyfundrefn honno. Lleolir ei bencadlys yn ninas Genefa, Y Swistir. Yn 2013, daeth y diplomydd Brasilaidd Roberto Azevêdo yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd, gan olynu'r Ffrancwr Pascal Lamy.

     Aelodau CMB     Aelodau'r Undeb Ewropeaidd, sydd yn aelodau'r sefydliad     Arsyllwyr

Ers diwedd y 1990au, mae Sefydliad Masnach y Byd dan feirniadaeth lem mudiadau gwleidyddol amgen sy'n gwrthwynebu yr hyn a alwent yn "hybu globaleiddio'r economi ryngwladol" a "rhoi rhwydd hynt" i fasnachwyr y gwledydd cyfoethog ar draul gweithwyr mewn gwledydd llai datblygiedig a'r tlodion yn gyffredinol. Mewn canlyniad mae cynadleddau'r sefydliad wedi bod yn ffocws i wrthdystio ar raddfa eang.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2017. Cyrchwyd 20 Mai 2017.CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. "WTO – Understanding the WTO – The GATT years: from Havana to Marrakesh". www.wto.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2018. Cyrchwyd 28 Mawrth 2019.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: