Y Chwyldro Oren

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joesjtsjenko Marion Kiev 2004.jpg
Trem ar Sgwâr Annibyniaeth, Kyiv, ar ddiwrnod cyntaf y protestiadau (22 Tachwedd 2004).
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolchwyldro Edit this on Wikidata
Rhan ocolour revolution, yr Ail Ryfel Oer Edit this on Wikidata
Dechreuwyd22 Tachwedd 2004 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Ionawr 2005 Edit this on Wikidata
GwladwriaethWcráin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres o brotestiadau yn sgil etholiad arlywyddol Tachwedd 2004 yn Wcráin oedd y Chwyldro Oren (Wcreineg: Помаранчева революція trawslythreniad: Pomarancheva revoliutsiia) a arweiniodd at gynnal ail bleidlais fis Rhagfyr. Cyhuddwyd yr awdurdodau o rigio'r etholiad i sicrhau buddugoliaeth i Viktor Yanukovich, yr ymgeisydd a ffafriwyd gan yr Arlywydd Leonid Kuchma, ar draul ei brif wrthwynebydd, Viktor Yushchenko. Ar 22 Tachwedd, trannoeth yr ail rownd o bleidleisio, ymgynullodd protestwyr am y diwrnod cyntaf o wrthdystio, yn bennaf yn Sgwâr Annibyniaeth yn y brifddinas Kyiv. Yn ogystal â'r gwrthdystiadau dyddiol yn Kyiv, cynhaliwyd hefyd streiciau cyffredinol ac ymgyrchoedd o anufudd-dod sifil ar draws y wlad.

O ganlyniad i'r protestiadau, gorchmynnodd Goruchaf Lys Wcráin i'r bleidlais rhwng Yanukovych a Yushchenko gael ei hail-gynnal. Ar 26 Rhagfyr 2004, enillodd Yushchenko yr etholiad arlywyddol gyda 51.99% o'r pleidleisiau, o gymharu â 44.2% i Yanukovych. Bu'r gefnogaeth i Yushchenko gryfaf yng ngogledd a gorllewin Wcráin, a phleidlais Yanukovych ar ei mwyaf yn neheubarth a dwyrain y wlad. Cydnabuwyd y canlyniadau hynny yn ddilys gan arsylwyr etholiadol, a daeth y Chwyldro Oren i'w derfyn felly ar 23 Ionawr 2005, pan sefydlwyd Viktor Yushchenko yn ffurfiol yn arlywydd Wcráin.

Yn ystod yr helyntion, cefnogwyd Yanukovych yn enillydd cyfreithlon yr etholiad gan Vladimir Putin, Arlywydd Ffederasiwn Rwsia. Bu'r rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America, yn cwestiynu'r canlyniadau ac yn ffafrio ymgyrch Yushchenko. Câi'r Chwyldro Oren ei ystyried gan nifer fel datblygiad pwysig wrth sicrhau'r drefn ddemocrataidd yn Wcráin. Roedd llywodraethau Rwsia a Belarws yn amau sbardun y protestiadau, ac yn cyhuddo carfanau gwleidyddol ac economaidd y Gorllewin o newid llywodraeth Wcráin dan gochl "chwyldro lliw".

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Viktor Yushchenko yn Hydref 2004, ei groen yn greithiog o ganlyniad i wenwyn.

Bu sawl ymgeisydd yn cystadlu yn etholiad arlywyddol Wcráin yn nhymor yr hydref 2004, a'r ddau geffyl blaen, o bell ffordd, oedd yr annibynnwr Viktor Yushchenko a'r Prif Weinidog Viktor Yanukovych, a enwebwyd gan Blaid y Rhanbarthau. Er i'r Llys Cyfansoddiadol ganiatáu iddo ymgyrchu am drydydd tymor yn y swydd, penderfynodd yr Arlywydd Leonid Kuchma yn hytrach gefnogi ei brif weinidog, Yanukovych, am yr arlywyddiaeth. Yn ystod ei ymgyrch, pwysleisiodd Yushchenko ei fwriad i mynd i'r afael â llygredigaeth wleidyddol a ffrindgarwch yn y llywodraeth, a daeth i'r amlwg fel yr ymgeisydd gwrthsefydliadol. Cafodd ei atal rhag ymweld â chadarnleoedd Yanukovych yn nwyrain y wlad, gan gynnwys dinas Donetsk, ac ym Medi 2004 aeth yn sâl iawn a chafodd croen ei wyneb ei hagru gan wenwyn. Yn ôl profion meddygol, cafodd ei wenwyno gan 2,3,7,8-Tetraclorodibensodiocsin (TCDD), sylwedd hynod o ddifwynol a ddefnyddir yn y chwynladdwr Agent Orange. Cyhuddodd rhai y Gwasanaeth Diogelwch o wenwyno Yushchenko mewn ymgais i'w ladd. Ers hynny, mae Yushchenko ei hun wedi cyhuddo Rwsia o amharu ar yr ymchwiliad i'r trosedd drwy wrthod estraddodi unigolion a amheuir o fod yn gyfrifol am ei wenwyno, gan gynnwys Volodymyr Satsyuk, cyn-ddirprwy gadeirydd Gwasanaeth Diogelwch Wcráin.[1]

Ni chafodd yr un ymgeisydd yn y rownd gyntaf o bleidleisio, ar 31 Hydref 2004, fwyafrif o'r bleidlais. Ar 10 Tachwedd cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol Canolog i Yushchenko ennill 39.87% o'r bleidlais, o gymharu â 39.32% i Yanukovych. Cynhaliwyd yr ail rownd o bleidleisio, rhwng Yushchenko a Yanukovych, ar 21 Tachwedd. Cyhoeddwyd bod Yanukovych wedi cipio'r etholiad, gyda 49.46% o'r bleidlais, o gymharu â 46.61% i Yushchenko. Fodd bynnag, gwrthodwyd y canlyniadau swyddogol gan gefnogwyr Yushchenko, a honnodd fod yr awdurdodau yn euog o dwyll etholiadol.

Protestiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Protestwyr a phebyll yn yr eira yn Stryd Khreshchatyk (24 Tachwedd 2004)
Merch yn dodi blodau oren ar darianau'r heddlu gwrth-derfysg yn Kyiv (1 Rhagfyr 2004).

Cychwynnodd y protestiadau dyddiol yn erbyn canlyniadau swyddogol yr etholiad ar 22 Tachwedd 2004, y diwrnod wedi'r ail rownd o bleidleisio. Ymgynnullodd cefnogwyr Yushchenko, nifer ohonynt yn gwisgo oren—lliw ei ymgyrch arlywyddol—yn y strydoedd, yn enwedig yn ei gadarnleoedd etholiadol yn y gorllewin a'r gogledd.

Yn nwyrain Wcráin, bygythiodd nifer o gefnogwyr Yanukovych y byddent yn ymgyrchu dros ymwahanu oddi wrth Wcráin os diddymwyd canlyniadau'r etholiad.

Ymateb gwleidyddol a barnwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhadledd ford gron ar 1 Rhagfyr 2004. Yn eistedd wrth y bwrdd, yn glocwedd o'r chwith i'r dde: Yushchenko; Aleksander Kwaśniewski, Arlywydd Gwlad Pwyl; Leonid Kuchma; Valdas Adamkus, Arlywydd Lithwania; Yanukovych; wedi ei guddio, Javier Solana, Uchel Gynrychiolydd Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin yr Undeb Ewropeaidd; a chyda'u cefnau i'r camera, Ján Kubiš, Ysgrifennydd Cyffredinol yr OSCE; Boris Gryzlov, Llefarydd y Duma; a Volodymyr Lytvyn, Llefarydd y Rada

Ar 3 Rhagfyr 2004, dyfarnwyd canlyniadau'r ail rownd o bleidleisio yn annilys gan Oruchaf Lys Wcráin, a gorchmynnwyd i'r gystadleuaeth rhwng Yushchenko a Yanukovych gael ei hail-gynnal ar 26 Rhagfyr.

Ymateb rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif gefnogwr Viktor Yanukovych ar y llwyfan rhyngwladol oedd Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, a ymwelodd ag Wcráin ddwywaith wrth ddynesu at yr etholiad er mwyn siarad yn gyhoeddus o'i blaid. Fe wnaeth Putin hyd yn oed llongyfarch Yanukovych ar ei fuddugoliaeth yn yr ail rownd cyn i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ffurfiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "Yushchenko to Russia: Hand over witnesses", Kyiv Post (28 Medi 2009). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Ebrill 2022.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Andrew Wilson, Ukraine's Orange Revolution (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2005).